Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Chwefror 2016

Gwobr Cyfraniad Arbennig i Datblygu

Y grŵp Datblygu ydy enillwyr cyntaf gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar.

Cyflwynwyd y wobr i David R. Edwards, canwr y grŵp o Aberteifi, prynhawn Sadwrn yn dilyn sgwrs arbennig rhyngddo â chyflwynydd Ochr 1, Griff Lynch fel rhan o weithgarwch ymylol Gwobrau’r Selar.

Cafodd y tlws ei gyflwyno gan gynrychiolydd Cwmni Da, noddwyr y wobr, sef Lara Catrin, fydd yn cyflwyno cyfres newydd ‘Pwy Geith y Gig’ ar S4C. 

Tîm golygyddol Y Selar oedd yn dewis enillwyr y wobr, sydd yn eu tyb hwy wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

“Rydan ni’n falch iawn i gyflwyno’r wobr yma am y tro cyntaf i Datblygu – grŵp sydd wedi arloesi a gwthio’r ffiniau cerddorol yn y Gymraeg, a sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i’r sin iach ac amrywiol rydan ni’n ei adnabod heddiw,” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.

“Roedden ni’n teimlo ei bod yn amserol i gyflwyno’r wobr yma i Datblygu ar ôl iddyn nhw ryddhau eu halbwm llawn cyntaf ers 20 mlynedd, Porwr Trallod, ym mis Rhagfyr.

"Pan ddechreuodd Datblygu ysgrifennu a chyhoeddi cerddoriaeth ar ddechrau’r 1980au, roedd yn wahanol i unrhyw beth oedd wedi’i glywed yn y Gymraeg cyn hynny ac wrth iddyn nhw barhau i arbrofi dros y ddegawd ganlynol fe ddaethon nhw i fod yn un o grwpiau pwysicaf Cymru.

“Yn ein tyb ni, maen nhw’n grŵp sy’n haeddu llawer iawn mwy o glod na’r hyn maent wedi’i dderbyn, ac mae hynny’n cyd-fynd â syniad y wobr newydd yma. Yn anffodus, doedd dim modd i Pat o’r grŵp fod yma heddiw, ond rydan ni’n hynod o falch bod Dave wedi dod yma i wneud y sgwrs.”

Llun: David R. Edwards yn derbyn y wobr gan Lara Catrin a Nici Beech o Gwmni Da

Rhannu |