Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Chwefror 2016

Hystings undebau addysg ar y cyd

Mae Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr Cymru (ATL Cymru), Undeb Cenedlaethol yr Athrawon Cymru (NUT Cymru) ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi ymuno i gynnal yr hystings addysg bwysicaf ar gyfer y proffesiwn addysgu yn y cyfnod sy’n arwain at etholiad Cymru ar 5ed Mai.

Mae'r digwyddiad, sydd yn cael ei gynnal yng ngwesty’r Futures Inn ym Mae Caerdydd, yn cael ei gadeirio gan Gareth Evans, Gohebydd Addysg y Western Mail, ac ar y panel bydd Huw Lewis AC (Llafur Cymru), Andrew RT Davies AC (Ceidwadwyr Cymreig), Simon Thomas AC (Plaid Cymru) ac Aled Roberts AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) i gyd yn gwneud eu cais am gefnogaeth etholiadol gan athrawon Cymru.

Dywedodd David Evans, Ysgrifennydd NUT Cymru: “Rydym yn falch iawn bod y llefarwyr addysg ar gyfer y pedair prif bleidiau yn y Cynulliad, gan gynnwys y Gweinidog dros Addysg, wedi cytuno i gael eu cwestiynu ar eu gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru gan yr unigolion gyda’r dasg o’i gyflwyno.

“Credaf fod parodrwydd y panelwyr i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn dangos y parch sydd ganddynt tuag at y proffesiwn. Mae'r ffaith ein bod wedi dod at ein gilydd fel tair undeb i hwyluso'r ddadl hon ar ran ein haelodau, ac yn wir ar ran aelodau undebau eraill a fydd yn mynychu, yn dangos cryfder yr undod sydd ymhlith y proffesiwn ar hyn o bryd.

“Mae'n hanfodol bwysig bod gan weithwyr addysg broffesiynol hyder yn ba bynnag blaid wleidyddol sydd yn gyfrifol am addysg yng Nghymru ar ôl yr etholiad ac mae hyn yn gam cyntaf cadarnhaol tuag at adeiladu’r berthynas yma.”

Dywedodd Dr. Philip Dixon, Cyfarwyddwr ATL Cymru: "Mae hon yn argoeli i fod yn noson gyffrous. Mae gennym res serol o wleidyddion - y gweinidog addysg gyfredol, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, a gweinidogion y gwrthbleidiau, sef Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Byddwn hefyd gyda thrawstoriad trawiadol o athrawon, penaethiaid a staff cynorthwyol a fydd am eu rhoi dan y lach.

“Addysg yw un o'r ddau brif gost o ran cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae'n iawn ei fod yn ganolbwynt sylw yn y cyfnod sy’n arwain at yr etholiad. Byddwn yn awyddus i glywed gan y pleidiau ynghylch eu polisïau a'u cynigion, a byddwn am iddynt wrando arnom am yr hyn sydd wedi a ddim wedi gweithio, beth sydd angen ei wneud - a beth sydd angen ei fuddsoddi mewn addysg er mwyn ei wneud.

“Mae athrawon wedi arfer cael eu beirniadu gan wleidyddion. Mae'r hystings hwn, gyda chynrychiolwyr o bob cwr o Gymru, am helpu i sicrhau bod ein darpar arweinwyr yn cael gwybod am yr hyn yr ydym ei angen ac yn ei ddisgwyl ganddynt. Bydd neges glir yn datgan fod rhaid i ni roi addysg yn gyntaf os ydym am i Gymru lwyddo."

Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Mae polisïau addysg yn cael effaith ar obeithion swyddi, cyfleoedd gyrfaol ac ansawdd bywyd pobl o bob oed. Gallant wneud neu dorri unigolion, teuluoedd a chymunedau. Heb y fantais o gyfleoedd dysgu gydol oes gwerthfawr mae pobl o bob oed a chefndir yn cael eu hamddifadu o ddewisiadau pwysig. Dyma pam mae’r digwyddiad hwn mor bwysig.

"Fel undebau rydym yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod addysg wrth wraidd Agenda Etholiad Cymru.

"Nid yw addysg yn ymwneud ag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn unig; yn fwy na dim mae'n ymwneud â phobl a chymdeithas. Mae system addysg ffyniannus yn arwain at economi ffyniannus a gweithlu medrus iawn mewn iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, busnes a diwydiant" ychwanegodd.

"Gobeithiwn y bydd pobl o bob cefndir yn ymuno â ni yn y digwyddiad allweddol hwn i drafod dyfodol Cymru.”

Rhannu |