Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Chwefror 2016

Pa un o’r pleidiau sy’n cynnig y ddêl orau i iechyd ac addysg?

Mae arweinydd Cristnogol Cymreig wedi dweud na ddylid caniatau i’r ddadl fawr am ddyfodol Prydain yn Ewrop amharu ar etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Yn ei Neges Gŵyl Ddewi, mae’r Parchg Ddr R. Alun Evans, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn galw ar bobl i ystyried dyfodol materion sydd wedi’u datganoli, fel y gwasanaethau iechyd ag addysg, wrth fwrw’u pleidlais ym Mis Mai.

“Wrth i ni ddathlu Gŵyl Ddewi a pharhad ein cenedl, daw’r amser yn fuan i ni feddwl am ddyfodol Cymru,” meddai’r Dr R.Alun Evans. “Bydd yr etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai yn gyfle i ni ystyried yr hyn mae’r pleidiau’n ei gynnig mewn dau faes allweddol: iechyd ac addysg. 

“Dyma wasanaethau sydd wedi tarddu o sefydliadau Cristnogol.  Am fil o flynyddoedd, o oes Dewi ymlaen, y mynachod fu’n gyfrifol am ddarparu gofal meddygol i bobl. Mae’r gair ‘hosbis’ ac ‘ysbyty’ yn dyddio o’r cyfnod cynnar hynny. Roedd y mynachlogydd hefyd yn ganolfannau dysg a chelfyddyd. 

“Yn y 18fed ganrif, dysgodd canran uchel o’r Cymry sut i ddarllen y Beibl, diolch i syniad athrylithgar Griffith Jones o sefydlu ysgolion cylchynol.  Ac o ddysgu darllen y Beibl, roedd galw mawr gan y werin bobl am lyfrau eraill a chylchgronau.  Fyth ers hynny, mae’r Cymry wedi rhoi pwyslais arbennig ar addysg. 

“Yn anffodus, fe fydd y ddadl fawr am ddyfodol y DU yn Ewrop yn siŵr o daflu cysgod trwm dros gyfnod ymgyrchu etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Ond dadl ar gyfer etholiad arall yw honno.

"O ran etholiad y Cynulliad, rwy’n annog pobl Cymru i ddwys ystyried pa un o’r pleidiau sy’n cynnig y ddêl orau i iechyd ac addysg.

"Dyma faterion sy’n cael effaith anferth ar ein bywydau bob dydd. Ar y rhain y dylem ganolbwyntio wrth benderfynu sut i fwrw ein pleidlais ar Fai 5ed,” meddai Dr Evans. 

 

Rhannu |