Mwy o Newyddion
Lansio mudiad newydd dros annibyniaeth i Gymru
Roedd stafell llawn dop ar gyfer lansiad swyddogol y mudiad newydd dros Annibyniaeth - YesCymru - yn Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd ddydd Sadwrn.
Bwriad Yes Cymru yw cynyddu cefnogaeth dros Gymru annibynnol drwy weithredu gwleidyddol a threfnu digwyddiadau fel y gwelir yn yr Alban a Chatalonia.
Yn siarad yn y lansiad yr oedd Liz Castro o Gatalwnia, sy’n awdur ac yn gyfrifol am Faterion Rhyngwladol ar bwyllgor gwaith Assemblea Nacional Catalana (ANC) - mudiad llawr gwlad dros annibyniaeth i Gatalwnia. Mae gan yr ANC dros 80,000 o aelodau, a’r llynedd derbyniodd Liz Castro y nifer fwyaf o bleidleisiau yn ystod yr etholiadau i'r pwyllgor gwaith.
Hefyd yn siarad yn y lansiad yr oedd Shona McAlpine, sydd wedi bod yn allweddol wrth sefydlu nifer o fudiadau dros annibyniaeth i’r Alban yn ystod y ddegawd ddiwethaf a John Dixon, cyn gadeirydd Plaid Cymru.
Dywedodd John Dixon: "Mae gormod o bobl yng Nghymru wedi mynd yn rhy gyfforddus yn osgoi'r cwestiwn, a cheisio ei wthio i ffwrdd cyn belled ag y bo modd i’r dyfodol.
"Nid yw’r achos dros i Gymru gymryd cyfrifoldeb llawn am ei dyfodol ei hun wedi ei roi am gyfnod rhy hir.
"Mae'n hen bryd i ni ei roi gerbron pobl Cymru.”
Dywedodd Iestyn ap Rhobert ar ran YesCymru: “Pob cenhedlaeth dywedir fod Cymru’n rhy dlawd i fod yn annibynnol, ac eto gyda phob cenhedlaeth dan reolaeth San Steffan, mae Cymru’n mynd yn gymharol dlotach.
"Rydym yn annog pobl Cymru i fod yn uchelgeisiol dros Gymru. Os yw annibyniaeth yn ddigon da i Iwerddon neu Ddenmarc, mae’n ddigon da i Gymru.
"Fel y sawl sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth Catalonia, Corsica, yr Alban a llawer o wledydd eraill, rydym yn cydnabod nad yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei gyflawni dros nos.
"Rhwng 2009 a 2011, roedd y gefnogaeth i annibyniaeth yn yr Alban yn gyson ar tua 25% yn ôl yr arolygon barn, erbyn heddiw mae o gwmpas 50%.
"Ni fu erioed ymgyrch dros annibyniaeth yng Nghymru; nid yw’r achos erioed wedi cael ei wneud. Ein bwriad yw cywiro hynny.”
Cafwyd hefyd adloniant gan y gantores a’r gyfansoddwraig boblogaidd Caryl Parry-Jones, a chyflwyniad i lyfryn newydd ar ffurf y ‘Wee Blue Book’ a fu mor ddylanwadol yn ystod ymgyrch refferendwm yr Alban.