Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Chwefror 2016

Paratoi at Her y Tri Chopa… rŵan

Mae Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn annog cerddwyr, a threfnwyr Her y Tri Chopa i ddechrau cofrestru ar gyfer yr Her rwan!

Bydd rhwng 30 a 40,000 o bobl bob blwyddyn yn ymdrechu i gyrraedd copaon Ben Nevis, Scafell a’r Wyddfa wrth gyflawni Her y Tri Chopa

 Yn anffodus, mae hyn yn cyfrannu at lwybrau’n erydu, cynefinoedd yn cael eu colli, mae parcio yn achosi problemau i gerddwyr, ymwelwyr a thrigolion ynghyd â sbwriel diangen yn cael ei adael ar ôl ar y mynyddoedd.

Ond gyda digon o baratoi a chynllunio gofalus, ynghyd ag addysgu’r bobl sy’n cymryd rhan, mae’r rhai sy’n gwarchod y mynyddoedd yn hyderus fod modd lleihau eu heffaith. 

Mewn ymdrech i leihau effaith negyddol yr Her ac annog defnydd cyfrifol a chynaliadwy o’r mynyddoedd, sefydlwyd Partneriaeth y Tri Chopa ac mae gwefan y Bartneriaeth a lansiwyd y llynedd yn llawn cyngor ymarferol ar sut i gyflawni’r her.

Uwch Warden Parc Cenedlaethol Eryri, Helen Pye sy’n esbonio ymhellach: “Mae’r wefan wedi ei anelu at unrhyw un sy’n paratoi i gyflawni her y Tri Chopa, boed yn gerddwr brwd neu’n drefnydd.

"Wrth gofrestru rŵan, mae’n rhoi digon o amser i bobl gynllunio a pharatoi ar gyfer eu Her. Rydan ni’n gofyn i bobl wneud tri pheth:

  • Wrth gofrestru, penderfynwch ar ddyddiad, gan gofio fod cyfnodau penodol yn brysurach nag eraill. Er mwyn gwerthfawrogi a mwynhau’r golygfeydd anhygoel, ceiswch gyflawni’r her dros dri diwrnod yn lle’r 24 awr traddodiadol os yn bosib.
  • Cynlluniwch eich taith yn ofalus. Mae’r wefan yn rhoi gwybodaeth fanwl am y mynyddoedd, sut i baratoi, trefniadau parcio a gadael chasglu, sut i leihau’ch effaith ar y mynyddoedd, ynghyd â chanllawiau a chyngor gan arbenigwyr lleol i’w lawrlwytho.
  • Darllenwch gyngor yr arbenigwyr ar y math o offer a dillad fydd eu hangen a sut i aros yn ddiogel.

"Felly cynta’n byd i chi gofrestru a chynllunio’n ofalus, gorau’n byd fydd eich profiad ac mi fyddwch chi, y mynyddoedd a’r ardal o’n cwmpas yn elwa.”

Gwefan y Bartneriaeth yw www.threepeakspartnership.co.uk ac mae cofrestru yn rhad ac am ddim. 

Rhannu |