Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Chwefror 2016

Cwymp drychinebus argae Oes yr Iâ yn Ne America yn newid cylchrediad a hinsawdd y Môr Tawel

Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Scientific Reports heddiw, tua diwedd yr Oes Iâ diwethaf rhyddhawyd dŵr croyw o lyn anferth yn Ne America ar y fath raddfa drychinebus nes newid cylchrediad dŵr y Môr Tawel.

Mae’r astudiaeth, a arweiniwyd gan yr Athro Neil Glasser o Brifysgol Aberystwyth, yn dangos bod y llyn, a oedd tua thraean maint Cymru, wedi draenio nifer o weithiau rhwng 13,000 ac 8,000 o flynyddoedd yn ôl, gan arwain at ganlyniadau dinistriol.

Ar ei bwynt uchaf, estynnai’r llyn dros 7,400km2, daliai 1500km3 o ddŵr, a gorweddai mewn basn sydd bellach yn cynnwys Lago General Carrera yn Chile a Lago Buenos Aires yn yr Ariannin.

Gan iddo gael ei ddal yn ôl gan argae a ffurfiwyd gan len iâ fawr, draeniodd y llyn yn gyflym wrth i’r llen iâ leihau. 

Dywedodd yr Athro Glasser: “Roedd y llyn hwn yn anferth.

"Pan ddraeniodd, rhyddhawyd tua 1150km3 o ddŵr croyw o’r rhewlifoedd i Fôr yr Iwerydd a’r Môr Tawel - sy’n cyfateb i tua 600 miliwn pwll nofio Olympaidd. Cafodd hyn effaith sylweddol ar gylchrediad dŵr y Môr Tawel a hinsawdd yr ardal ar y pryd.

“Draeniodd llawer o’r dŵr croyw i’r môr ger  Golfo Peñas, i’r de o Brifddinas Chile, Santiago.

"Byddai’r dŵr croyw wedi gorwedd ar ben yr heli wrth iddo ledaenu, gan effeithio ar gerhyntau’r moroedd.

"Effeithiodd y digwyddiad ar ddeheubarth cyfan De America.

"Byddai wedi arwain at lai o law yn syrthio yn y gaeaf a thymheredd yr aer a’r môr yn oerach yn ardal yr Horn, gyda’r effeithiau’n cael eu teimlo mor bell i’r dwyrain ag Ynysoedd y Falkland.

“Mae’r astudiaeth yn bwysig gan ein bod ar hyn o bryd yn pryderu ynghylch faint o ddŵr croyw sy’n mynd i mewn i’r moroedd wrth i lenni iâ doddi yn y Lasynys ac Antarctica, ac mae hyn yn rhoi syniad i ni o’r effeithiau tebygol.”

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan wyddonwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Caerwysg, Stockholm a Reading ac Arolwg Antarctig Prydain, a ddefnyddiodd wahanol dechnegau i ymchwilio i faint y cynlyn a sut y’i draeniwyd.

Casglwyd samplau o waddodion a adawyd gan y cynlyn i geisio darganfod pryd y draeniodd y llyn trwy ddefnyddio techneg labordy a elwir yn ddyddio gronynnau unigol trwy ymoleuedd a ysgogir yn optegol.

Defnyddiwyd Modelau Gweddlun Digidol (DEMs) i ganfod lleoliadau glannau blaenorol y cynlyn ynghyd â’u huchder a’u llwybrau draenio, ac i gyfrifo faint o ddŵr a ryddhawyd wrth i’r llyn ddraenio.

Defnyddiwyd model hinsawdd cefnfor-atmosffer i fesur effaith gollwng cymaint â hyn o ddŵr croyw i’r Môr Tawel.

Ariannwyd yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) gyda chymorth oddi wrth Gyngor Ymchwil Sweden.

Mae'r papur: Glacial lake drainage in Patagonia (13-8 kyr) and response of the adjacent Pacific Ocean gan Neil F. Glasser (Prifysgol Aberystwyth University), Krister N. Jansson (Prifysgol Stockholm), Geoffrey A. T. Duller (Prifysgol Aberystwyth), Joy Singarayer (Prifysgol Reading), Max Holloway (British Antarctic Survey) & Stephan Harrison (Prifysgol Exeter) ar gael ar lein yma www.nature.com/articles/srep21064

Rhannu |