Mwy o Newyddion
Eisteddfod yr Urdd yn lansio Penwythnos i Bobl Ifanc
Am y tro cyntaf eleni, bydd Maes Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint yn cael ei drawsnewid yn ŵyl gerddorol i bobl ifanc ar y dydd Gwener a Sadwrn olaf.
Bydd bandiau ac artistiaid ar y llwyfan perfformio trwy gydol y dydd, cae wedi ei neilltuo i ieuenctid wersylla a bar a gig ar y Maes ar y nos Sadwrn.
Bydd pecynnau gwersylla yn cael eu cynnig fydd yn cynnwys mynediad i’r Maes ar gyfer y ddau ddiwrnod, y gig nos Sadwrn a gwersylla nos Wener a nos Sadwrn, gyda’r pris yn amrywio o £17 i gystadleuwyr ac aelodau’r Urdd i £30 i oedolion.
Yn chwarae ar y nos Sadwrn bydd Mellt, Y Bandana a Candelas ac ar ddydd Gwener yr Eisteddfod sef diwrnod Cerddoriaeth y BBC, bydd yr Urdd yn cydweithio gyda’r BBC i lwyfannu bandiau yn cynnwys Band Pres Llareggub.
Bydd criw cylchgrawn cerddorol Y Selar yn gyfrifol am y llwyfan perfformio weddill yr wythnos, gan gynnwys y dydd Sadwrn olaf, gydag amrywiaeth o fandiau yn chwarae.
Mae’r llwyfan perfformio, sy’n bartneriaeth rhwng yr Urdd a Chyngor Celfyddydau Cymru, wedi bod yn rhan allweddol o Faes yr Eisteddfod ers sawl blwyddyn.
Yn ôl Branwen Haf, trefnydd y penwythnos a Threfnydd Cynorthwyol Eisteddfod yr Urdd: “Mae hwn yn ddatblygiad hynod gyffrous sydd wedi deillio o drafodaethau Bwrdd Syr IfanC, ein fforwm ieuenctid genedlaethol.
" Roeddent yn teimlo, er fod digon i deuluoedd ei wneud ar y Maes, y byddai’n braf pe gallem gynnig rhywbeth penodol i bobl ifanc ar y penwythnos olaf.
“Mi fydd y nos Sadwrn yn gyfle i ddathlu’r Eisteddfod ac yn rhoi clo cyffrous i’r wythnos.
"Mae Eisteddfod yr Urdd ers blynyddoedd yn rhoi llwyfan i dros 30 o fandiau ac artistiaid yn ystod yr wythnos, ond bydd yn braf eleni gallu ymestyn hyn i’r nos Sadwrn hefyd.
"Gyda’r maes gwersylla drws nesa i’r Maes, gall pobl ifanc fwynhau penwythnos cyfan yn Eisteddfod yr Urdd yn cwrdd â ffrindiau newydd a chael blas ar y Sin Roc Gymraeg heddiw.”
Ychwanegodd Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Er mwyn i Eisteddfod yr Urdd ffynnu, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig ein bod yn gwrando a gweithredu ar farn y bobl ifanc rydym ni yn ceisio eu cyrraedd.
"Mae hwn yn ddatblygiad newydd a chyffrous ac rydym yn hyderus y bydd yn apelio at aelodau hŷn yr Urdd. Ni fydd y newidiadau hyn yn amharu ar drefn arferol y cystadlu yn y pafiliwn.”