Mwy o Newyddion
Gwaith ymchwil yn dangos fod Dolgellau yn lle poblogaidd ar Ddydd Sant Ffolant
Mae gwaith ymchwil diweddar gan gwmni adolygu teithiau TripAdvisor wedi dangos fod Dolgellau yn un o’r llefydd mwyaf delfrydol ym Mhrydain i ddathlu Dydd Sant Ffolant.
Dangosodd gwaith ymchwil diweddar gan wefan ‘Holidaylettings.co.uk’ o gwmni TripAdvisor mai Dolgellau oedd yr wythfed lleoliad mwyaf poblogaidd i gariadon dreulio’r diwrnod.
Mae Dolgellau wedi gweld cynnydd o 69% o ran ymholiadau ar gyfer arosiadau ar gyfer Dydd Sant Ffolant o’i gymharu gyda blynyddoedd a fu.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi Cyngor Gwynedd: “Mae Dydd Santes Dwynwen neu Ddydd Sant Ffolant yn esgus perffaith i gyplau geisio canfod lleoliad arbennig i dreulio noson neu ddwy i fwynhau.
“Braf gweld lleoliadau hyfryd fel Dolgellau yn cael eu gweld fel mannau rhamantus i ddathlu Dydd Sant Ffolant.
"Mae’n amlwg o’r arolwg fod nifer helaeth o bobl yn dewis mynd a’u cariadon i lefydd llai poblog, distaw ar gyfer y diwrnod arbennig lle mae cyfle i fwynhau cefn gwlad.
"Yn sicr mae gan Wynedd a lleoliadau fel Dolgellau digon i’w gynnig ar gyfer rheini sy’n edrych i fwynhau gwyliau gwledig.”
Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil ar gael yma: https://www.holidaylettings.co.uk/blog/18-romantic-uk-destinations-perfect-for-a-valentines-day-escape/