Mwy o Newyddion
The Swingles yn siglo draw i Fangor i gynnal dosbarth meistr i leisiau
Bydd un o grwpiau lleisiol clasurol gorau’r byd yn perfformio yng Ngŵyl Gerdd Bangor fis nesaf.
Bydd aelodau diweddaraf The Swingles, grŵp sydd wedi bod gwthio ffiniau cerddoriaeth leisiol ers dros hanner canrif, yn perfformio cyngerdd o’u cerddoriaeth comisiwn newydd yn Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor ar nos Sadwrn, 5 Mawrth.
Cyn hynny yn ystod y dydd, bydd y cantorion dawnus yn arwain dosbarth meistr ac yn pasio rhai awgrymiadau pwysig a thechnegau lleisiol ymlaen i ddarpar gantorion ifanc.
Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys tri premiere rhyngwladol a chyngerdd agoriadol ar Ddydd Gŵyl Dewi gan sêr rownd derfynol Britain’s Got Talent, Côr Glanaethwy.
Bydd cerddoriaeth cyfansoddwyr benywaidd Cymru yn cael lle blaenllaw yn ystod yr ŵyl ynghyd a pherfformiad gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda’r unawdydd soprano Ruby Hughes, mewn cyngerdd o gerddoriaeth a ysgrifennwyd gan ferched o Gymru, a fydd yn cynnwys tri premiere rhyngwladol.
Hefyd bydd y perfformiad cyntaf yn Ewrop o The Open Field, gwaith gan y cyfansoddwr nodedig Hilary Tann, a anwyd yng Nghymru, a gafodd ei ysbrydoli gan y digwyddiadau dramatig yn Sgwâr Tiananmen yn Tsieina ychydig dros chwarter canrif yn ôl.
Ymysg yr uchafbwyntiau eraill bydd cyngherddau yn cynnwys y soprano o fri Elin Manahan Thomas, cerddoriaeth arbrofol gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor a gwaith byrfyfyr dwyreiniol gan The Fusion Ensemble, y pianydd enwog o Rwsia Xenia Pestova a fydd yn cael cwmni Electroacwstig Cymru ar y llwyfan, ynghyd â gig gan y band indie Cymraeg Sŵnami.
Dywed y tenor uchel Oliver Griffiths, sydd wedi bod gyda’r Swingles ers 2010, fod y grŵp o saith canwr yn edrych ymlaen at berfformio yn yr ŵyl.
Dywedodd: “Mae ymddangos yng Ngŵyl Gerdd Bangor yn cychwyn ychydig fisoedd dwys iawn i ni gan ei fod yn arwain i mewn i daith o Taiwan, tir mawr Tsieina a’r Unol Daleithiau a Chanada, felly rydym yn mynd i fod i ffwrdd o’n cartref yn Llundain am dipyn o amser.”
“Rydym yn edrych ymlaen gymaint i ganu ym Mangor oherwydd rydym wir yn mwynhau'r cyfle i weithio gyda chantorion ifanc mewn dosbarthiadau meistr. Rydym i gyd yn mwynhau prosiectau addysgol oherwydd mae’n gyfle i ysbrydoli, arfogi a chyfoethogi pobl, yn enwedig cantorion ifanc y dyfodol.
“Dylai cantorion deimlo’n rhydd i ganu’n fyrfyfyr ac arbrofi gyda cherddoriaeth fel rhan o broses lawen a chwareus.”
Ffurfiwyd y Swingles yn wreiddiol ym Mharis yn 1962 gan y canwr Americanaidd a’r cerddor jazz Ward Swingle.
Chwalodd y grŵp Ffrengig yn 1973 a symudodd Ward Swingle i Lundain lle recriwtiodd gantorion newydd a lansio Swingles II cyn newid yr enw i The Swingles.
Dywedodd Olive Griffiths: “Rydym yn y broses o recriwtio ail denor newydd a Gŵyl Gerdd Bangor fydd ein cyngerdd cyntaf ar ein newydd wedd. Dyma’r newid cyntaf i ni ers nifer o flynyddoedd.
“Rydym yn ymwybodol iawn bod gennym etifeddiaeth bwysig i’w gwarchod. Mae yna ymdeimlad o gyfrifoldeb sy’n dod gyda bod yn Swingle, mae yna hanes cyfoethog y tu ôl i bopeth a wnawn.
“Byddwn bob amser yn perfformio beth fyddai’r gynulleidfa yn disgwyl ei glywed mewn cyngerdd Swingles. Bydd Bach a Debussy bob amser yn rhan bwysig o unrhyw un o’n cyngherddau. Ond rydym hefyd yn mwynhau treulio amser yn cyfansoddi a threfnu ein cerddoriaeth eu hunain.
Ac mae’r Swingles yn parhau i dreulio amser yn y stiwdio recordio gan ryddhau dau albwm newydd y llynedd.
Meddai Oliver: “Mae’r Swingles wedi rhyddhau dros 50 o recordiadau dros y blynyddoedd ac mae’r grŵp, yn ei holl ffurfiau, wedi ennill pum gwobr Grammy.
“Rydym hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i ymddangos ar nifer o draciau sain, gan gynnwys Sex and the City, Glee, Grey’s Anatomy a Milk.”
Ychwanegodd: “Dw i ddim yn siŵr beth fydd ein rhaglen ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor, ond bydd yna ddigon o amrywiaeth ac, er y bydd Bach a Debussy a digon o’n gwaith newydd ein hunain, bydd yna beth Beatles, Annie Lennox ac ambell syrpreis hefyd.
“Rydym wrth ein boddau yn perfformio i gynulleidfaoedd gwybodus yng Nghymru ac rwy’n siŵr ein bod yn mynd i gael noson wych yn perfformio ym Mangor. Mae’n mynd i fod yn noson gynnes, lawen ac yn fwy na dim yn ddathliad o gerddoriaeth hyfryd. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno! “
I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Gerdd Bangor a thocynnau ewch i www.bangormusicfestival.org.uk / 01248 382181