Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Chwefror 2016

Cerddoriaeth Gymreig ar ei ffordd i'r Unol Daleithiau

Bydd cilfachau o America'n troi'n Gymreig wrth i gerddorion o bob rhan o Gymru lanio yn Texas a Missouri ar gyfer The House of Songs, Folk Alliance International a South by South West (SXSW).

Bydd y canwr, cyfansoddwr a cherddor gwerin o Gaerdydd, Gareth Bonello, neu The Gentle Good, yn ymuno â cerddorion o wahanol wledydd yn The House of Songs.

Hwn fydd cydweithrediad mwyaf The House of Songs - sef rhaglen gyfnewid ar gyfer cyfansoddwyr caneuon yn Austin – hyd yma, gyda naw cerddor o wahanol wledydd yn cyfansoddi cerddoriaeth newydd gydag artistiaid lleol. Bydd ffrwyth y cydweithio yn cael ei berfformio yng Nghynhadledd, gwersyll a Ffair Folk Alliance International yn ninas Kansas, Missouri rhwng 17 a 21 Chwefror.

Ac yn ymuno â Gareth yn y Folk Alliance International - sef cynulliad mwya'r byd o'r diwydiant a'r gymuned cerddoriaeth Werin - fydd Lleuwen, cantores, cyfansoddwraig a gitarydd o Ddyffryn Ogwen; Calan, sef 5 cerddor ifanc sy'n rhoi sain ffres ac egnïol i gerddoriaeth draddodiadol Gymreig, ac sy'n dychwelyd i'r gynhadledd am yr ail dro, a Plu, brawd a dwy chwaer o Eryri sy'n canu cerddoriaeth werin amgen yn y Gymraeg, gydag elfennau o gerddoriaeth wlad.

Rhwng 11 a 20 Mawrth, bydd artistiaid o Gymru yn glanio yn SXSW, un o wyliau cerddoriaeth mwyaf a phwysicaf y byd yn Austin, Texas. Eleni bydd yr ŵyl yn cyflwyno The People The Poet, a rhyddhaodd eu halbwm cysyniadol cyntaf "The Narrator” gan ddenu clod mawr; Violet Skies - cantores a chyfansoddwraig o Gas-gwent yn Sir Fynwy; Estrons - band roc amgen o Gaerdydd, a Gwenno - artist sain, DJ, cyflwynydd radio a chantores o Gaerdydd.

Mae’r cyfleoedd hyn wedi cael eu cefnogi drwy Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru fel rhan o'u gwaith ehangach i greu cyfleoedd rhyngwladol newydd ar gyfer y sector diwylliannol yng Nghymru.

Dywedodd Nikki Morgan, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: "Mae'r cynadleddau a'r gwyliau hyn yn gynulliadau allweddol ar gyfer dawn gerddorol newydd, a'r enwau mawr sydd y tu ôl i'r diwydiant.

"Gallai hwn fod yn foment tyngedfennol yng ngyrfaoedd y perfformwyr a'r busnesau cerddoriaeth ill dau, a'n nod ni yw sicrhau bod Cymru wrth galon y digwyddiadau hyn, a'u bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n codi yn artistig ac yn economaidd."

 

 

Rhannu |