Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Chwefror 2016

Cwmni gofal yn edrych am 16 person ifanc di-waith yng Ngwynedd i gofrestru ar gyfer cynllun hyfforddi fydd yn newid bywydau

Mae cwmni gofal yn edrych am 16 person ifanc di-waith yng Ngwynedd i gofrestru ar gyfer cynllun hyfforddi fydd yn newid bywydau.

Y cwrs yng nghanolfan dementia newydd gwerth £7 miliwn gan Barc Pendine yng Nghaernarfon yw’r rhan gyntaf o’r cynllun i greu 100 o brentisiaethau ar draws Gogledd Cymru.

Mae Academi Pendine wedi ymuno gydag elusen Ymddiriedolaeth y Tywysog i lansio’r rhaglen hyfforddi rhad ac am ddim ym Mryn Seiont Newydd ar gyrion y dref.

Yn ogystal â rhedeg y cynllun ‘Get into Health and Social Care’, mae Parc Pendine hefyd yn ei ariannu gyfan gwbl fel rhan o’r fenter academi a lansiwyd ym mis Tachwedd y llynedd.

Cynhelir diwrnod blasu ym Mryn Seiont ddydd Mercher, 2 Mawrth.

Bydd y rhaglen yn rhoi cipolwg i bobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed o’r hyn mae’n olygu i weithio mewn cartrefi gofal neu ofal cartref ac yn rhoi carreg gamu i yrfa sy’n rhoi boddhad gyda phosibiliadau gyrfa da.

Bydd y sawl sy’n cael eu derbyn ar y rhaglen yn elwa ar dair wythnos o brofiad galwedigaeth ym Mryn Seiont, ac yn ystod y cyfnod hwn byddant yn cael y cyfle i brofi sut fyddai dyfodol fel gofalwr arbenigol modern.

Bydd y sawl sydd yn cwblhau’r cyfnod cychwynnol yn llwyddiannus yn cael y cynnig i fynd am fwy o hyfforddiant gydag Academi Pendine, lle byddant yn cael eu talu drwy gynllun hyfforddi ‘ennill wrth ddysgu’ yr academi.

Mae cynlluniau tebyg Ymddiriedolaeth y Tywysog sydd wedi’u rhedeg gan Barc Pendine yn Wrecsam yn y blynyddoedd diweddar wedi arwain at roi gwaith llawn amser yn y sefydliad i 11 hyfforddai.

Un o’r rheiny a gafodd ddechrau newydd oedd Sabrina Rafferty a oedd yn un o 14 o bobl ifanc ar raglen yn ystod mis Chwefror diwethaf.

Wedi bod yn ddi-waith am chwech mis cafodd waith llawn amser fel ymarferwr gofal yng nghartref gofal Parc Pendine Hillbury House yn Wrecsam.

Gwnaeth Sabrina, 19 oed, mor dda fel iddi gael ei phenodi’n Llysgennad Ifanc Ymddiriedolaeth y Tywysog, sy’n golygu dweud ei stori a rhoi gobaith i bobl ifanc sydd mewn sefyllfa debyg iddi hi.

Dywedodd: “Mae bod yn rhan o’r cynllun hyfforddi yn bendant wedi newid fy mywyd er gwell.

“Yn dilyn cael fy nghymhwyster gwallt a harddwch yn y coleg roeddwn yn ddi-waith am chwe mis.

“Doeddwn i methu’n glir â dod o hyd i swydd ac roedd eistedd gartref ddydd ar ôl dydd yn eithaf diflas.

“Yna, drwy’r Ganolfan Byd Gwaith clywais am gynllun hyfforddi Ymddiriedolaeth y Tywysog yn Academi Pendine yn Wrecsam.

“Gwnes hynny am dair wythnos lle cefais ddysgu am bob agwedd ar ofal cymdeithasol.

“Ar y diwedd roedd gen i wythnos o brofiad gwaith yn Hillbury House. Mi fwynheais hwn yn fawr, ac wedi gorffen roeddwn yn ddigon ffodus i gael cynnig swydd llawn amser yno gan y rheolwr, Cindy Clutton.”

Ychwanegodd: “Rydw i wrth fy modd yn gweithio yno, yn bennaf pan rwyf yn gweld gwên ar wynebau’r preswylwyr wrth i mi ddod i’r gwaith. Mae eu helpu a gofalu amdanynt yn dod â llawenydd i’m bywyd.

“Rydw i eisiau gwneud hyn yn yrfa. Ar hyn o bryd rwyf yn gwneud fy Niploma Lefel 2 mewn gofal cymdeithasol ac unwaith y byddaf wedi cyflawni hyn rydw i eisiau mynd ymlaen i gael cymwysterau pellach.

“Gobeithio un diwrnod y byddaf yn gallu mynd i reoli.

“Rwyf yn ddiolchgar iawn i Pendine ac Ymddiriedolaeth y Tywysog am roi’r cyfle hwn i mi newid fy mywyd a byddwn yn annog pobl eraill i fynd ar gynllun tebyg.”

Dywedodd perchennog Parc Pendine Mario Kreft MBE fod rhaglen hyfforddi newydd Get Into Health and Social Care yn Bryn Seiont yn cynnig y dechrau perffaith i yrfa sy’n rhoi boddhad yn y diwydiant gofal.

Esboniodd: “Get Into Health and Socia Care yw’r bedwaredd raglen o’i math yr ydym yn rhedeg ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog a’r cyntaf i gael ei lleoli yn Bryn Seiont Newydd, a agorwyd yn ddiweddar ac sydd yn cyflogi 90 o staff gofal erbyn hyn.

“Ar y rhaglen ddiweddaraf hon rydym yn edrych am 16 o bobl ac mae’n debygol y bydd nifer fawr o’r rhain yn ddi-waith neu’n ceisio goresgyn anabledd.

“Y bwriad yw arddangos gofal cymdeithasol fel cyfle gyrfa sy’n rhoi boddhad ac, yn y gorffennol, mae nifer o bobl ifanc ar y cynlluniau hyn, fel Sabrina, wedi cael swyddi parhaol gyda Pendine.

“Mae’r cynllun a leolir ym Mryn Seiont hefyd yn arwyddocaol mewn nifer o ffyrdd eraill.

“Dyma’r cyntaf i’w redeg dan nawdd ein hacademi hyfforddiant mewnol a’r cyntaf lle y byddwn ni’n chwarae rôl y darparwr yn ogystal â’r noddwr. Yn hynny o beth mae’n arloesol yng Nghymru.”

Ychwanegodd: “Byddwn y cynnal diwrnod blasu ar gyfer y cynllun ym Mryn Seiont Newydd ddydd Mercher 2 Mawrth.

“Bydd y rheiny sy’n ei weld fel cyfle i ymuno â’r diwydiant gofal cymdeithasol ac yn dangos y tueddfryd cywir yn cael cynnig cyfle i fynd ymlaen i gam nesaf y broses i ddatblygu seiliau cadarn yn y proffesiwn gyda’n Hacademi Pendine, fydd yn para am chwe mis.

“Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw bydd y bobl lwyddiannus yn cael cynnig cyfle i ymuno â rhaglen hyfforddi llawn fydd yn para am 18 mis lle byddant yn cael eu talu, felly mae’n gyfle gwirioneddol i ennill wrth ddysgu.

“Erbyn diwedd y cyfnod hyfforddi byddant yn weithwyr gofal iechyd llawn a fydd yn derbyn cymhwyster Lefel 2 mewn iechyd a gofal cymdeithasol a diploma Lefel 2 mewn busnes a gweinyddiaeth.

“Mae gan Barc Pendine hanes cadarn o dros 30 mlynedd y cynnig cyfleoedd i bobl ymuno â’r proffesiwn, yn enwedig y rheiny a alla fod wedi bod dan anfantais mewn un ffordd neu’r llall neu sydd wedi goresgyn anabledd. Mae’r cynllun hwn yn gam arall o’r broses honno.

“Mae hefyd yn bwysig dweud fod y rhaglen hon wedi’i hariannu’n llawn ac nad oes unrhyw arian cyhoeddus yn cefnogi’r rhaglen.

“Mae’n fenter gan Academi Pendine ar y cyd ag Ymddiriedolaeth y Tywysog ac yn un yr ydym yn falch iawn o’i chynnig. Gobeithiaf y bydd cymaint â phosibl o bobl yn dod i’n diwrnod blasu.”

Dywedodd Mark Joseph, swyddog gweithredol rhaglen Ymddiriedolaeth y Tywysog: “Rydym yn hynod gyffrous i weithio gyda Pendine fel rhan o’u pecyn addysg newydd.

“Rydym wedi rhedeg nifer o gyrsiau llwyddiannus gyda Pendine yn y gorffennol ac mae’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan bob amser yn elwa ar sgiliau a phroffesiynoldeb eu tîm.

“Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc gael eu troed mewn yn y sector gofal gyda chymwysterau cydnabyddedig yn y diwydiant a’r posibilrwydd o swydd gydol oes.”

Am ragor o wybodaeth am y diwrnod blasu ym Mryn Seiont Newydd ar 2 Mawrth, cysylltwch â Sian Jones ar 07970 876717, neu anfonwch neges e-bost at: Sian.jones@princes-trust.org.uk

Llun: Sabrina Rafferty gyda Margaret Newell, un o breselwyr Parc Pendine

Rhannu |