Mwy o Newyddion
Parc Cenedlaethol Eryri yn wynebu toriadau 'anodd'
YNG nghyfarfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch ddydd Mercher, rhoddodd yr Aelodau eu sêl bendith ar y camau i’w cymryd er mwyn ymateb i ostyngiad o 5% yng ngrant Llywodraeth Cymru.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, dioddefodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri doriad o 14%, sef £872,000 yn ei wasanaethau. Ond yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, sef 2016, mae angen i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddioddef toriad pellach o £423,000 a phosibilrwydd o doriadau pellach yn 2017.
Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Mae cael rhybudd o gynnwys cyllideb mor hwyr yn y dydd yn gwneud y gwaith o gyflawni gorchwyl amhleserus yn anos o lawer.
“Mae’r gyllideb ddrafft yr ydym wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn nodi 5% o doriad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac fel Awdurdod bychan sy’n denu grant craidd o £5 miliwn, mae’r toriadau hyn yn anodd iawn i’w cyflawni.
“Rydym eisoes wedi gorfod edrych ar bob maes o’n gwaith a gwneud nifer o benderfyniadau anodd iawn, gan gynnwys cynyddu incwm, newid amodau staff, peidio llenwi swyddi, derbyn ymddiswyddiadau gwirfoddol yn ogystal â diswyddo.
“Bellach fodd bynnag, rhaid i ni ystyried lleihau lefel ein gwasanaeth sydd yn ei dro, yn anorfod yn golygu y bydd angen diswyddo mwy o staff.”
Ymhlith y newidiadau y penderfynodd yr Aelodau arnyn nhw ddydd Mercher mae:
* Codi incwm o ffioedd ar gyngor cyn gwneud ceisiadau cynllunio
* Cynyddu incwm Plas Tan y Bwlch, gwasanaethau sy’n darparu gwybodaeth a’r meysydd parcio
* Lleihau gwariant ar brosiectau archeoleg, adeiladau rhestredig, bioamrywiaeth, coedlannau, amaethyddiaeth, mynediad a grantiau CAE
* Dileu swyddi gwag
* Derbyn ymddeoliadau cynnar a diswyddiadau gwirfoddol
* Diswyddiadau gorfodol
* Peidio ag ail agor Canolfan Groeso Dolgellau
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb derfynol ar gyfer 2016 ar Fawrth 1af.