Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Chwefror 2016

Y Prif Weinidog yn cefnogi cais Llechi Cymru

Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu cefnogaeth Prif Weinidog Cymru ar gyfer eu gwaith i enwebu  diwydiant llechi hanesyddol Gogledd Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd nesaf Cymru.

Cafodd rhai o gynghorwyr a swyddogion y Cyngor gyfle i drafod y cynllun efo’r Prif Weinidog yn ystod ei ymweliad diweddar â Chwarel y Penrhyn a Zipworld ym Methesda.

Cyngor Gwynedd sydd yn arwain y cynllun i ennill dynodiad UNESCO ar ran nifer o bartneriaid sydd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yr Amgueddfa Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywio, y Cynghorydd Mandy Williams-Davies ei bod yn falch iawn fod y Prif Weinidog, Carwyn Jones am gefnogi cynllun sydd o ddiddordeb lleol a chenedlaethol.

Meddai: “Roedd yn amlwg yn gwerthfawrogi’r buddion economaidd posibl o gael Safle Treftadaeth y Byd diwydiannol newydd i Ogledd Cymru..

“Mae’r diwydiant llechi wedi cael dylanwad enfawr ar gymunedau, tirwedd treftadaeth a diwylliant y sir, ac mae hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes a datblygiad y Chwyldro Diwydianol yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd.”

Edrych i’r dyfodol

Dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Mae ein Safleoedd Treftadaeth y Byd yma yng Nghymru, gan gynnwys cestyll Iorwerth y Cyntaf yn y Gogledd, yn ased pwysig i'r wlad gan ddod â chydnabyddiaeth ryngwladol i ni a denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Mae ennill y statws hwn yn her fawr, ond os bydd yn llwyddiannus bydd yn hwb sylweddol i'r ardal leol a'r economi ehangach.

“Mae hanes y diwydiant llechi yn y Gogledd o'i ddechrau di-nod i ddiwydiant sydd wedi allforio i bob rhan o'r byd yn berthnasol ledled y byd. Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i gefnogi'r gwaith a wnaed hyd yma gan Gyngor Gwynedd a'i bartneriaid wrth weithio tuag at statws treftadaeth y byd ac rwy'n edrych ymlaen at ei gynnydd."

Yn ystod yr ymweliad cafodd y Prif Weinidog gyfle i weld llechi yn cael eu hollti gan beiriannau modern a hefyd gan gŷn a morthwyl yn siediau Welsh Slate yn Chwarel y Penrhyn.

Clywodd y Prif Weinidog hefyd am rôl economaidd bwysig y chwarel a sut mae llechi o’r chwarel yn parhau i gael eu defnyddio led-led gwledydd Prydain a’u hallforio i weddill Ewrop a thu hwnt.

Mae Zipworld. sydd ar gyrion y chwarel, yn fenter dwristaeth sydd yn mynd o nerth i nerth wrth i ymwelwyr gael cyfle i wibio ar wifren ar draws un o geudylldau’r Penrhyn.

Cafodd y Prif Weinidog weld cynlluniau i adeiladu pencadlys newydd y cwmni ar y safle. Mae disgwyl i’r adeilad agor yn hwyrach eleni.

Llun: Y Prif Weinidog, Carwyn Jones gyda Dr Dafydd Gwyn, awdur Llechi Cymru: Archaeoleg a Hanes a’r Cynghorydd Mandy Williams-Davies yn ystod yr ymweliad diweddar â Chwarel y Penrhyn ym Methesda 

Rhannu |