Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Chwefror 2016

Croesawu tro pedol ar doriadau i gyllid prifysgolion

MAE AC Plaid Cymru Simon Thomas wedi croesawu’r ffaith fod y llywodraeth Lafur wedi gwneud tro pedol rhannol ar y toriadau i gyllid prifysgolion.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth ostyngiad yn y toriad blaenorol o £41m i gyllid Addysg Uwch, i £10m.

Dywedodd Simon Thomas: “Rwy’n falch fod y llywodraeth Lafur wedi ildio i bwysau gan Blaid Cymru ac wedi gwrthdroi rhai o’r toriadau hyn. Mae’n rhyfeddol fod y llywodraeth yn bwriadu gwneud toriadau na welwyd eu bath i’r gyllideb Addysg Uwch heb hyd yn oed gynnal asesiad effaith na’u trafod mewn cyfarfodydd cabinet, ac y mae’r tro pedol hwn yn gyfaddefiad eu bod wedi gwneud camgymeriad.

“Mae’r Gweinidog Addysg wedi gwneud llanast o bethau, a chreu panig ymysg ein prifysgolion. Mae’r ffaith ei fod wedi gwrthod cydnabod yr argyfwng a achosodd yn arwydd o ddiffyg dealltwriaeth dwys o effaith fyddai toriadau mor fawr yn gael ar ein prifysgolion, ac effaith hynny ar economi Cymru. Rwy’n falch fod y sector Addysg Uwch wedi cael peth sicrwydd heddiw na fydd y toriadau mor llethol ag y tybiwyd gyntaf.

“Plaid Cymru sydd wedi arwain yr ymgyrch yn erbyn y toriadau hyn, ac yr wyf yn falch fod y llywodraeth wedi ildio i’r pwysau a roesom arnynt.”

Dywedodd Cyng Sian Gwenllian, ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad ar fai 5ed: "Rwyf yn croesawu tro-pedol Llafur ar Addysg Uwch.

"Bydd y toriad yn llawer llai diolch i ymgyrch gref gan Plaid Cymru yn y Cynulliad a'r sefydliadau addysg uwch.

"Ond, mae'r ffaith i doriad mor fawr i addysg uwch gael ei gynnwys gan y Llywodraeth Lafur heb unrhyw asesiad o'r effaith ar swyddi yn codi pryder at y dyfodol.

"Mae'n dangos diffyg dealltwriaeth o bwysigrywdd prifysgolion fel Prifysgol Bangor i'r economi leol a'r cyfraniad anferth y gall y sector Addysg Uwch ei wneud wrth i ni ymdrechu i foderneiddio a bywiogi'r economi yng Nghymru."

Llun: Cyng Sian Gwenllian

Rhannu |