Mwy o Newyddion
Ewrop yw 'cartref naturiol Cymru'
Heddiw bydd Jill Evans ASE Plaid Cymru yn lansio ymgyrch 'Cymru yn Ewrop' ei phlaid gyda galwad i'r genedl uno i sicrhau parhad aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
Mae disgwyl i Jill Evans ASE ddweud fod Ewrop yn "gartref naturiol" i Gymru am fod yr Undeb yn gwarchod buddiannau Cymru ac yn adlewyrchu ei gwerthoedd.
Bydd hi'n ychwanegu fod yr Undeb Ewropeaidd yn sicrhau buddiannau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i Gymru ac na ddylid fyth danamcangyfrif pwysigrwydd yr Undeb yn sicrhau a gwarchod heddwch a sefydlogrwydd.
Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Jill Evans ASE Plaid Cymru fydd yn arwain yr ymgyrch 'Cymru yn Ewrop':
"Credai Plaid Cymru mai Ewrop yw cartref naturiol ein cenedl. Mae'r Undeb wedi gwarchod ein buddiannau ac adlewyrchu ein gwerthoedd am flynyddoedd lawer ac hoffem weld y berthynas lwyddiannus hon yn ffynnu yn y dyfodol.
"Mae Cymru yn elwa o aelodaeth o'r UE yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
"Mae bron i 200,000 o swyddi yng Nghymru yn gysylltiedig a mynediad i'r Farchnad sengl a'i hanner biliwn o bobl. Mae miloedd o fyfyrwyr a phobl ifanc yn elwa o raglenni UE sy'n eu galluogi i astudio a gweithio mewn gwledydd eraill a dysgu ieithoedd newydd.
"Drwy'r UE, mae gennym gyfreithiau ar gydraddoldeb, ar yr amgylchedd, hawliau gweithwyr a phrynwyr, ar ffermio ac ansawdd bwyd, i daclo newid hinsawdd a llawer mwy.
"Mae Plaid Cymru eisiau sicrhau llais cryfach i Gymru o fewn Undeb Ewropeaidd wedi ei diwygio. Rydym eisiau gwella amodau gwaith i weithwyr a chydweithio er mwyn yr amgylchedd, cynaliadwyedd a chyfiawnder gymdeithasol.
"Mae cydweithio traws-ffiniol yn hanfodol i gadw ein dinasyddion yn ddiogel ac mewn oes o fygythiadau cynyddol, mae hi'n bwysig cynnal y cysylltiadau hyn. Mae'r UE wedi helpu i sicrhau a chynnal heddwch yn Ewrop: rol na ddylid fyth ei hamcangyfrif ac y dylid ei gwarchod yn y dyfodol.
"Mae llawer yr hoffem ei newid am yr UE, ond o'r tu mewn y mae cyflawni hynny. Nid oes pwynt cwyno ar y cyrion. Yn hytrach, rydym yn dewis cydweithio gyda'n chwaer bleidiau yng Nghynghrair Rhydd Ewrop a'n cydweithwyr blaengar ledled yr UE.
"Gydag etholiad y Cynulliad a refferendwm yr UE ar y gorwel, mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at gyflwyno ein hachos dros Gymru gref a ffynianus o fewn Ewrop ddiwygiedig."