Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Chwefror 2016

Contract newydd i’r gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru

Mae contract saith mis newydd ar gyfer y gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru wedi ei roi i Van Air, cwmni profiadol sydd eisoes yn gwasanaethu nifer o feysydd awyr ym Mhrydain.

Bydd Citywing yn partneru gyda Van Air i ddarparu gwasanaeth tocynnau a marchnata, a bydd yn bosib i’r teithwyr bellach archebu eu taith rhwng Ynys Môn a Chaerdydd am y saith mis nesaf. 

Mae Citywing eisoes yn helpu i ddarparu’r gwasanaeth dros dro presennol wedi i’r cwmni blaenorol, Links Air, benderfynu’n ddi-rybudd i beidio â darparu’r gwasanaeth bellach.  Bydd tendr llawn ar gyfer contract tymor hwy i ddarparu’r gwasanaeth yn cael ei lansio’n fuan. 

Meddai Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth:  "Rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod Van Air wedi bod yn llwyddiannus yn ennill y tendr i ddarparu Gwasanaeth Awyr Oddi mewn i Gymru am y saith mis nesaf cyn inni ddyfarnu’r contract hirdymor.

"Er gwaethaf rhai anawsterau yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym i sicrhau nad oes toriad yn y gwasanaeth pwysig hwn. 

"Byddwn yn cydweithio’n agos â’r cwmni newydd i hyrwyddo’r gwasanaeth awyr, sydd wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer y teithwyr yn y flwyddyn ddiwethaf.

"I gefnogi dyfodol hirdymor y gwasanaeth, comisiynwyd astudiaeth gennyf yn ddiweddar i edrych ar y cyfleoedd posibl i ehangu’r gweithgarwch ym Maes Awyr Ynys Môn.

"Rwy’n disgwyl derbyn adroddiad drafft o’r gwaith hwn o fewn y misoedd nesaf.”  

Mae’n bosib i deithwyr archebu tocynnau drwy Citywing ar-lein ar http://www.citywing.com/  neu trwy ffonio 0871 200 0440 

 

Rhannu |