Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Chwefror 2016

Cynllun newydd i wella gwasanaethau y glust, y trwyn a'r gwddf y GIG

Fydd gwasanaethau awdioleg cymunedol, sy’n gallu rheoli atgyfeiriadau uniongyrchol o ofal sylfaenol ar gyfer colli clyw, tinitws a theimlo'n benysgafn gan ryddhau gwasanaethau mewn ysbytai i drin yr achosion mwyaf cymhleth, yn cael eu sefydlu yng Nghymru, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd heddiw.

Mae hyn yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i drawsnewid gwasanaethau y glust, y trwyn a'r gwddf (ENT) yn y gwasanaeth iechyd.

Mae ENT yn un o'r gwasanaethau arbenigol allweddol yn y gwasanaeth iechyd. Mae'n cynnwys llawer iawn o lawdriniaethau plant, triniaeth am ganser yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau i oedolion gan gynnwys cleifion sydd ag anabledd clyw sylweddol.

Yng Nghymru y llynedd, atgyfeiriwyd dros 84,000 o gleifion allanol ENT newydd a chynhaliwyd tua 15,000 o driniaethau.

Nod y Cynllun Gweithredu ENT Cenedlaethol yw gwella profiadau a chanlyniadau cleifion wrth ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy, gan adeiladu ar gyfres o ddatblygiadau i ddarparu gofal wedi'i gynllunio sy'n effeithiol ac yn effeithlon i'w gweithredu gan yr holl fyrddau iechyd.

Mae'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd ddeall a mesur y galw, y capasiti a'r gweithgarwch yng ngwasanaethau ENT a sefydlu dull o fesur profiad cleifion ar gyfer y gwasanaethau hyn yng Nghymru.

Fel rhan o'r cynllun bydd mesurau newydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau mai'r cleifion cywir yn unig sy'n cael eu rheoli gan ofal eilaidd dan arweiniad meddyg, gyda'r mwyafrif helaeth o gleifion yn cael eu gweld trwy wasanaethau yn y gymuned. Bydd byrddau iechyd yn sefydlu gwasanaethau awdioleg yn y gymuned sy'n gallu rheoli atgyfeiriadau uniongyrchol o ofal sylfaenol ar gyfer colli clyw, tinitws a theimlo'n benysgafn/pendro.

Mae’r mesurau eraill yn cynnwys:

Bydd byrddau iechyd yn sicrhau na chaiff ymyriadau "peidiwch â gwneud" ac "ymyriadau na chânt eu cynnal fel arfer" y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Gofal Iechyd eu gwneud bellach. Er enghraifft, bydd llawdriniaeth tynnu tonsiliau ond yn cael ei chynnal os yw'r claf yn bodloni trothwy penodol, hynny yw ei fod yn dioddef o leiaf chwe achos o donsilitis mewn blwyddyn

?* Bydd byrddau iechyd yn dilysu rhestrau aros i ddileu cleifion nad oes angen apwyntiad fel claf allanol neu lawdriniaeth arnynt. Bydd hyn yn helpu i leihau amserau aros ar gyfer cleifion sydd angen triniaeth frys

?* Dylid trefnu apwyntiadau dilynol lle bo'n gwbl angenrheidiol yn unig. Bydd hyn yn rhyddhau amser meddygon i drin mwy o gleifion

?* Lle bo angen apwyntiad dilynol fel claf allanol, bydd hyn yn cael ei gynnal fwyfwy fel apwyntiad rhithwir ar gyfer achosion lle mae'n ddiogel ac yn briodol rhoi cyngor trwy ddefnyddio ffyrdd gwahanol o gyfathrebu

?* Bydd pob claf yn cael asesiad smygu a phwysau fel rhan o'u llwybr atgyfeirio i gael apwyntiad arferol fel claf allanol ENT. Bydd smygwyr a'r cleifion hynny â BMI>35 yn cael eu hatgyfeirio i'r gwasanaeth lleol priodol i gael gwasanaethau gwrth-smygu a rheoli pwysau fel rhan o'u triniaeth gweithredol

?* Bydd grwpiau gofal ar y cyd (rhwng ysbytai, gofal yn y gymuned a gofal sylfaenol) yn cael eu sefydlu i roi'r grym i gleifion reoli eu hiechyd eu hunain.

Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu gan Fwrdd y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal wedi’i Gynllunio.

Dywedodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd: "Mae ein system gofal wedi'i gynllunio yn wynebu heriau sylweddol oherwydd cynnydd yn y galw.

"Mae angen newid y system yn sylweddol ac ar frys i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel.

"Diben y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal  wedi'i Gynllunio yw sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu newid yn sylweddol fel bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n gweld ac yn trin y cleifion cywir, yn y man cywir ac ar yr adeg gywir.

"Mae'r cynllun ENT rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn nodi nifer o newidiadau pwysig y byddwn yn eu gwneud i'r gwasanaethau fel bod y gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio cynaliadwy sy'n gwella canlyniadau cleifion." 

Rhannu |