Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Chwefror 2016

Galw am wrthdroi’r toriadau Addysg Uwch

Mae Plaid Cymru wedi galw am wrthdroi toriadau arfaethedig y llywodraeth Lafur o 32% i gyllidebau prifysgolion er mwyn gwarchod safonau Addysg Uwch yng Nghymru.

Daw hyn wedi i gofnodion cyfarfodydd y cabinet ddatgelu nad oes cofnod o drafodaeth am yr effaith a gâi toriadau i gyllidebau Addysg Uwch.

Mae hyn ar waetha’r ffaith mai’r toriad i’r gyllideb yw’r toriad canrannol unigol mwyaf i unrhyw gyllideb o bwys ers y wasgfa gredyd, ac er ei fod yn peryglu cannoedd o swyddi yng Nghymru, gan fygwth sector pwysig.

Y mis diwethaf, cadarnhaodd y Prif Weinidog wrth arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood nad oedd ei lywodraeth wedi gweithio allan faint o swyddi fyddai’n cael eu bygwth gan y toriadau i’r gyllideb.

Dywedodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas fod y toriadau yn dangos dirmyg Llywodraeth Cymru at oblygiadau eu penderfyniadau polisi.

Dywedodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas: “Mae’r toriadau arfaethedig i gyllid Addysg Uwch yn drychineb i’n prifysgolion, ac yn achos pryder enfawr i bobl yn y sector.

"Mae’n anhygoel nad oedd y llywodraeth Lafur hyd yn oed yn ystyried hyn yn ddigon pwysig i’w drafod yn eu trafodaethau ar y gyllideb.

"Allaf i ddim deall pam y cymerwyd penderfyniad mor fawr i dorri 32% o gyllidebau prifysgolion heb asesiad effaith llawn ar y sector.

“Mae dirmyg llwyr Llafur tuag at effaith y toriadau hyn yn rhyfeddol.

"Bydd y toriadau nas gwelwyd eu bath yn peryglu cannoedd o swyddi, a hefyd yn peryglu enw da ein prifysgolion wrth iddynt geisio gwrthweithio’r difrod a achoswyd gan y llywodraeth.

"Ond y mis diwethaf, cadarnhaodd y Prif Weinidog nad oedd ei lywodraeth wedi gweithio allan faint o swyddi fyddai dan fygythiad oherwydd y toriadau a fwriedir yn y gyllideb.

“Cynllun y llywodraeth Lafur yw torri cyllidebau prifysgolion Cymru tra’n parhau i dalu £90 miliwn i brifysgolion y tu allan i Gymru.

"Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o arian trethdalwyr Cymru i brifysgolion y tu allan i Gymru nac i brifysgolion Cymru.

"Nid yw’n gwneud synnwyr, ond y mae’n datgelu dirmyg Llafur tuag at sector o bwys.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld Llafur yn ail-feddwl eu cynlluniau i dorri miliynau o bunnoedd o gyllidebau prifysgolion.”

 

Rhannu |