Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Chwefror 2016

Galw am system bledleisio ddemocrataidd-atebol

Mae Plaid Cymru wedi lansio ymgyrch trawsbleidiol ar y cyd â phleidiau eraill i alw am gynrychiolaeth gyfrannol, mewn ymgais i unioni annhegwch y system etholiadol bresennol.

Wrth annerch cynhadledd a drefnwyd gan ymgyrch Make Votes Matter, dywedodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams AS bod democratiaeth yn cael ei danseilio gan system bleidleisio anghynrychioladol, sy’n gwadu llais i nifer fawr o bleidleiswyr yn nyfodol cyfeiriad gwleidyddol y wlad.

Dywedodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams AS: “Mae yna alw cynyddol gan y cyhoedd i’r holl bleidiau gwleidyddol gofleidio system bleidleisio sy’n decach, ddemocrataidd-atebol, ac un sy'n adlewyrchu bwriadau pleidleisio pob dinesydd mewn ffordd fwy cyfrannol.

“Gall y newid hyn ond ddigwydd os yw pob plaid yn cydweithio i unioni'r anghydbwysedd presennol a phwyso am system bleidleisio decach yn San Steffan.

“Mae system San Steffan angen ei diwygio. Un o'r pethau sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod etholiadau y gorffennol yw bod pobl yn teimlo nad ydy eu pleidleisiau yn cyfrif.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i bwyso am system etholiadol sy’n decach, fwy cynrychiadol, lle mae pob pleidlais ym mhob etholiad ym mhob cymuned yn cael pwysau cyfartal.

“Byddai system bleidleisio decach, fwy cyfrannol yn sicrhau fod dewisiadau pobl yn cael eu hadlewyrchu yn deg yn y Senedd. Mae arferion pleidleisio pobl wedi newid yn sylweddol, ond nid yw’r system bleidleisio bresennol wedi newid gyda'r oes.”  

“Os yr ydym ni fel gwleidyddion etholedig eisiau ennyn parch pleidleiswyr, yna mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni newidiadau i adlewyrchu'r awydd cynyddol am gynrychiolaeth gyfrannol.” 

Rhannu |