Mwy o Newyddion
Galw ar Ddŵr Cymru i gadarnhau diogelwch pibell ar safle Penrhyndeudraeth
Mae Cynghorydd Sir Penrhyndeudraeth, Gareth Thomas yn galw am gadarnhad gan Dŵr Cymru bod pibell garthffosiaeth sydd o dan Cae Cookes, ym Mhenrhyndeudraeth yn ddiogel wrth i gynlluniau ar gyfer creu rhandiroedd yno barhau.
Mae'r cae, sy’n rhan o'r hen safle Ffatri Ffrwydron Cookes neu Gwaith Powdwr wedi ei chynnig ar brydles hir dymor gan Gyngor Tref Penrhyndeudraeth i grŵp cymunedol, Cymdeithas Rhandiroedd Penrhyndeudraeth. Cynigiodd y Gymdeithas y lleoliad i gwmni adeiladu Hochtief yn ystod y gwaith o ddatblygu Pont Briwet.
Gan bod y bont newydd yn ei lle, mae trigolion lleol a'r Gymdeithas Rhandiroedd yn awyddus i symud ymlaen â datblygu'r safle i greu 26 o unedau rhandiroedd at ddefnydd cymunedol.
“Mae hwn yn gynllun gwych i bobl yr ardal, ac mae’r Cyngor Tref yn gweithio'n galed i symud y gwaith yn ei flaen. Rydym yn dod yn fwyfwy rhwystredig oherwydd y diffyg gan Dŵr Cymru i gadarnhau bod y bibell garthffosiaeth o dan y ddaear yn ddiogel ar gyfer datblygu'r tir,” esboniodd y Cynghorydd Gareth Thomas sy'n cynrychioli trigolion lleol ar Gyngor Gwynedd, ac sydd hefyd yn Gadeirydd Cyngor Tref Penrhyndeudraeth.
“Yn hanesyddol, rydym yn ymwybodol bod y bibell garthffosiaeth wasgeddedig wedi chwythu dair gwaith yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, felly mae yna bryderon gwirioneddol cyn y gall unrhyw ddatblygu ddigwydd.
“Mae nifer o gyfarfodydd wedi eu cynnal gyda Dŵr Cymru, ond rydym yn parhau i aros am eu mewnbwn i gyflwr y bibell garthffosiaeth, wrth barhau â phroses caniatâd cynllunio Cyngor Gwynedd. Mae diogelwch a lles ein trigolion yn hollbwysig, yn enwedig gan y bydd y safle, yn y dyfodol, yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd,” esboniodd y Cynghorydd Gareth Thomas.
Cae hamdden y Gwaith Powdwr oedd y safle sydd wedi ei leoli ger Gorsaf Drên Penrhyndeudraeth. Roedd y Ffatri yn un o brif gyflogwyr yr ardal tra yn ei hanterth, ac roedd yn rhan annatod o ardal Penrhyndeudraeth.
Dechreuodd y Ffatri gynhyrchu ffrwydron ym 1865, gan gyflenwi deunydd ar gyfer y ddau ryfel byd, yn ogystal â ffrwydron ar gyfer y diwydiant llechi yn ddiweddarach yn yr 20fed ganrif.
Caeodd y ffatri yn 1995 a dadgomisiynwyd y safle yn ddiweddarach.
Yn ôl y Cynghorydd Thomas: "Mae'r lleoliad yn dal atgofion melys i bobl a oedd yn gweithio yn y ffatri, a’n gobaith yw y bydd y cynllun rhandir newydd yn galluogi pobl leol i greu atgofion newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
"Rydym yn gwybod bod lleihau milltiroedd bwyd a bwyta bwyd lleol yn eu tymor yn llesol i'r amgylchedd. Pa ffordd well i addysgu ein pobl ifanc na rhoi cyfle iddynt gynorthwyo oedolion i hau, meithrin a thyfu ffrwythau a llysiau yn eu hardal eu hunain,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas.
Meddai llefarydd o Dŵr Cymru: “Yn dilyn cais gan Gyngor Tref Penrhyndeudraeth, mae Dŵr Cymru wedi gwneud arolwg llawn o’r rhwydwaith carthffosiaeth yn yr ardal.
"Er mwyn sicrhau fod arolwg cynhwysfawr yn cael ei wneud, cafodd yr ymchwiliad ei gynnal dros gyfnod o fisoedd er mwyn cynnwys effeithiau cyfnodau gwahanol o dywydd.
“Roedd yr arolwg wedi nodi bod angen gwneud ychydig o welliannau i’r rhwydwaith, ac mae’ gwaith hwn wedi ei gwblhau.
"Mae crynodeb o’r arolwg eisoes wedi ei basio i Gyngor Tref Penrhyndeudraeth yn ogystal â chadarnhad fod y gwaith gwella wedi ei gwblhau.”