Mwy o Newyddion
Dr Elin Jones yw llywydd Eisteddfod 2016
Heddiw, cyhoeddwyd mai Dr Elin Jones fydd Llywydd yr Ŵyl, Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni. Bydd yn annerch cynulleidfa’r Pafiliwn o’r llwyfan yn ystod wythnos y Brifwyl a gynhelir yn Nolydd y Castell, Y Fenni o 29 Gorffennaf – 6 Awst.
Mae Elin Jones yn adnabyddus am ei chyfraniad arbennig i hanes Cymru ac i ymwybyddiaeth o afiechyd meddwl, ac fe’i hurddwyd er anrhydedd i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod y llynedd ar sail ei harbenigedd yn y meysydd hyn. Mae’n byw yn Ystrad Mynach, bro ei mebyd, ar ôl blynyddoedd yng Nghaerdydd.
Yn un o haneswyr blaenaf Cymru, mae’n gweithio fel ymgynghorydd annibynnol ym maes hanes, addysg, llywodraeth a gwleidyddiaeth ers dros ugain mlynedd. Bu’n gyfrifol am ddatblygu’r cwricwlwm hanes yng Nghymru o 1996 i 2006, ac am gomisiynu adnoddau dysgu, ynghyd â chynghori rheoleiddwyr cymwysterau TGAU, UG ac U yn hanes a llywodraeth a gwleidyddiaeth yn ystod y cyfnod.
Fe’i penodwyd i gadeirio’r tasglu i adolygu’r Cwricwlwm Cymreig a Hanes gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau yn 2012, rhan o’r adolygiad ehangach ar y cwricwlwm yng Nghymru a gyhoeddwyd y llynedd.
Yn ogystal â’i gwaith ym maes hanes Cymru, mae Elin Jones yn lladmerydd pwysig ac ysbrydoledig ynglŷn ag iechyd meddwl yma yng Nghymru, gyda’i pharodrwydd i siarad yn sensitif am ei phrofiad teuluol a phersonol yn gysur a chefnogaeth i lawer dros y blynyddoedd. Hi yw Cadeirydd Ymddiriedolwyr Hafal, sef prif elusen iechyd meddwl Cymru.
Mae’n weithgar iawn mewn nifer fawr o wahanol feysydd gan roi’i hamser i bob math o sefydliadau a chymdeithasau lleol a chenedlaethol. Mae’n Llywydd Clwb Bechgyn a Merched Ystrad Mynach, Cadeirydd Merched y Wawr Cwm Rhymni a Chadeirydd Is-bwyllgor Addysg Confensiwn y Siartwyr, Casnewydd. Mae’n aelod o’r tasglu sy’n cynghori’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y defnydd o’r Gymraeg yn y Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac yn aelod o Banel Ymgynghorol y Bywgraffiadur Cymreig.
Mae hefyd yn aelod o bwyllgorau Menter Treftadaeth Ysgolion Cymru, Archif Menywod Cymru, MOROL, a Chanolfan Gristnogol Gymunedol Siloh Ystrad Mynach. Mae hi hefyd yn gallu siarad yr Wenhwyseg, tafodiaith ardal Gwent.
Mae Elin Jones yn dilyn amryw o Gymry amlwg fel Llywydd yr Ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y gwyddonydd, yr Athro Syr John Meurig Thomas, y barnwr Nic Parry, cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a’r cyfarwyddwr theatr a’r actor, Daniel Evans.
Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru