Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Chwefror 2016

Myfyriwr a raddiodd o Brifysgol Bangor yn cychwyn ar daith unwaith mewn oes

Mae myfyriwr Prifysgol Bangor yn cychwyn ar daith gyffrous ar draws y byd.

Yn 2008, graddiodd Shaun McCance, sy’n 32 oed ac o Dde Sir Gaerloyw, gyda TAR mewn Mathemateg o Brifysgol Bangor.

Mae’n cychwyn ar daith gyda thîm i gwblhau lap o’r blaned, gan feicio hyd y chwe phrif gyfandir poblog.

Mae’n daith ar feic ar draws y byd, sydd dros 38,000 o filltiroedd o hyd ar hyn o bryd, ac a fydd yn cynnwys saith copa ar hyd y ffordd.

Dywedodd Shaun, a ddaw yn wreiddiol o Wiltshire: "Rydw i wedi bod efo uchelgais ers tro i feicio pellter hir, ac yn y diwedd mi wnes i bennu'r dyddiad gyda ffrind da, dyddiad yr ydym ni wedi bod yn gweithio tuag ato dros y tair blynedd ddiwethaf.

"Mi wnaeth y diddordeb yn y fenter roi hwb i ni, a'r posibilrwydd o godi swm sylweddol drwy roddion cyhoeddus yn sgil taith nodedig iawn ar gyfer achos eithriadol.

"Drwy hyn mi arweiniodd y daith at yr ymdrech gyntaf yn y byd i feicio saith copa.

"Mae teithio ar feic yn rhoi persbectif heb ei hail o'r diwylliannau a’r tirweddau ar hyd y ffordd.

"Gyda’r ddau ohonom wrth ein boddau gyda ffotograffiaeth a beicio, ac yn meddu ar sgiliau i fynd ymhell y tu hwnt i gysur y llwybr i dwristiaid, byddwn yn ymgymryd â’r her o gofnodi’n ofalus ddelwedd angerddol a diffuant y byd ar hyd y ffordd.

"O’i ddefnyddio’n ofalus a meddylgar, mae'r camera’n cynnig arf gwerthfawr i addysgu a chodi ymwybyddiaeth; fel ffotograffwyr angerddol, ar y daith ‘Chasing the Sunrise’, byddwn yn dogfennu’r dirwedd a’r diwylliant ar draws y blaned.

"Nod y daith ‘Chasing the Sunrise’ yw addysgu ac ysbrydoli ar hyd y ffordd, ac yn ôl adref yn y byd datblygedig, gobeithir hyrwyddo ymwybyddiaeth o gadwraeth a newid hinsawdd ar draws y blaned. Gwneir hyn wrth godi arian ar gyfer gwaith gwych y World Wildlife Foundation.

"Ym mis Mawrth 2016, bydd y daith yn mynd â fi a'r tîm drwy rai o rannau mwyaf anghysbell y byd a’r rhai yr ymwelwyd leiaf â nhw; a byddwn yn gadael yr asffalt er mwyn dringo rhai o fynyddoedd uchaf eu parch y blaned ar y ffordd."

Ychwanegodd am Fangor: "Roedd Bangor yn ddewis amlwg i mi.

"Wedi byw yn Llundain am flwyddyn sylweddolais fy mod i’n fwyaf cartrefol o fod yn agos at y mynyddoedd

" O ganlyniad roedd hyn yn cyfyngu fy newisiadau i lawr i lond llaw o Brifysgolion.

"Hefyd, roedd Prifysgol Bangor wedi ennill enw da ar gyfer hyfforddi athrawon. Mae'r brifysgol yn un o'r dewisiadau gorau wnes i."

Rhannu |