Mwy o Newyddion
Cariad at weilch yn arwain at fywyd newydd i feddyg teulu
MAE diddordeb ysol mewn adar ysglyfaethus wedi arwain at newid bywyd i’r meddyg teulu 51-oed Tracy Norris.
Roedd y meddyg teulu o Swydd Hampshire wedi’i swyno gymaint gan y gweilch oedd yn nythu mewn gwarchodfa natur yng Nghymru fel y symudodd ei chartref a’i swydd i fod yn agos atynt.
“Deuthum i’w gweld am y tro cyntaf ar ddiwedd tymor 2013. Roeddwn mor hoff o’r ardal fel y penderfynais ddod yn ôl y flwyddyn ganlynol yn fy fan wersylla,” meddai Tracy, a gafodd ei denu gan y newyddion fod Gwarchodfa Natur Cors Dyfi, ger Machynlleth yn adeiladu arsyllfa gweilch newydd sbon, diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Pan ddaeth yn ôl holodd am wirfoddoli gyda phrosiect yr arsyllfa ac roedd wedi’i bachu: “Rwyf wastad wedi hoffi adar ysglyfaethus, a gweilch yn enwedig.
“Pan glywais eu bod yn nythu yma roedd rhaid imi ymweld ac roedd eu gweld yn eu holl ysblander yn gwireddu breuddwyd,” meddai Tracy.
“Pan gerddais i mewn i’r Arsyllfa 360 am y tro cyntaf daeth â dagrau i’m llygaid. Mae’n lle mor arbennig.”
Er mai hwn oedd y tro cyntaf i Tracy wirfoddoli penderfynodd nad oedd y daith 400-milltir yna ac yn ôl o’i chartref yn Swydd Hampshire yn bosib mwyach.
Yn y lle cyntaf prynodd garafán sefydlog ar safle gwersylla gerllaw fel y gallai aros yno drwy’r tymor ac yna penderfynodd ei bod eisiau bod yn rhan o’r prosiect drwy’r flwyddyn. Dim ond un peth oedd i’w wneud.
“Ar ôl dod yn rhan o waith ymgysylltu’r prosiect penderfynais yr hoffwn gyfrannu fwy ac allan o’r tymor os yn bosib.
“Mae fy ngyrfa yn caniatáu imi weithio yn unrhyw le i bob pwrpas,” meddai.
Roedd wedi clywed gan gyfeillion yn y warchodfa natur fod angen meddygon teulu ym Machynlleth.
“Penderfynais ymddiswyddo fy mhartneriaeth yn Swydd Hampshire a symud yma unwaith ac am byth.”
A dyna mae wedi ei wneud erbyn hyn, gan drefnu ei dyddiau i ffwrdd o’r feddygfa deuluol er mwyn bod ar gael i helpu yn y Warchodfa sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn.
Mae’r ffaith ei bod ar gael gymaint mwy yn golygu y bydd wrth law i gael hyfforddiant ar agweddau gwahanol o reoli’r warchodfa.
“Mae bod yn rhan o’r prosiect wedi gwella fy nghydbwysedd gwaith a bywyd yn fawr iawn.
“Mae’r bobl mor gyfeillgar ac rydyn ni fel un teulu mawr,” meddai Tracy.
“Rydw i wrth fy modd yn siarad am yr adar a’r anifeiliaid yn y warchodfa, y blodau a’r pryfed, ac adnabod adar hefyd.
“Rydw i’n teimlo mor ddedwydd pan ydw i yn y prosiect, a gan bod fy nheulu o Dde Cymru, rydw i’n teimlo mod i wedi dod adref.”