Mwy o Newyddion
Dyfodol i'r Iaith yn pwyso am dair sir i'r Gogledd yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol
Fel rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ad-drefnu Llywodraeth Leol, mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan drachefn eu dymuniad am dair Sir i Ogledd Cymru.
Mae hynny’n meddwl fod Dyfodol yn cefnogi uno Gwynedd a Môn, ond yn gwrthwynebu uno Gwynedd, Môn a Chonwy os yw ad-drefnu yn digwydd.
Mae’r mudiad eisoes wedi mynegi barn ar y mater hwn mewn trafodaethau a gohebiaeth â’r Llywodraeth, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Prif Weinidog.
Pwysleisiwyd yr un neges sylfaenol; sef bod angen gwarchod ac ehangu’r Gymraeg fel iaith weinyddol Llywodraeth Leol yng Nghymru, ac yn benodol felly yn y Gogledd-orllewin.
Mae Dyfodol o’r farn ei bod yn hanfodol bwysig gosod ffiniau sy’n addas i anghenion y Gymraeg, ac os am warchod a chryfhau'r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, nid oes amheuaeth mai’r opsiwn synhwyrol fyddai sefydlu tair Sir yn y Gogledd.
Dywedodd Simon Brooks, Ysgrifennydd Dyfodol: “Os ydym am warchod ac ehangu ar yr hyn a gyflawnwyd yng Ngwynedd dros ddeugain mlynedd, mae’n rhaid sicrhau ffin a fyddai’n caniatáu hyn yn weddol rwydd.
"O ystyried demograffeg iaith a hanes y ddwy ardal, byddai uno Gwynedd a Môn yn cynnig cyfle gwych o safbwynt cryfhau’r Gymraeg yn y Gogledd orllewin.
"Ar y llaw arall, byddai’r opsiwn uno Gwynedd a Môn gyda Chonwy yn golygu ymysg pethau eraill ychwanegu at Wynedd a Môn cymunedau ar hyd glannau Clwyd lle nad yw’r Gymraeg yn iaith arferedig ond canran fychan o’r boblogaeth.
"Byddai hyn yn creu sefyllfa gwbl afrealistig o safbwynt Gwynedd yn cadw ei bolisi iaith cryf presennol, heb sôn am ei ehangu. Yn wir, byddai’n gosod her anorchfygol i’r Gymraeg fel iaith weinyddol."