Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Chwefror 2016

Mesurau newydd i fynd i'r afael â chlefyd yr afu yng Nghymru

Mae Vaughan Gethin, y Dirprwy Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi y bydd cyfres o fesurau newydd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y marwolaethau a achosir gan glefyd yr afu yng Nghymru.

Bydd hyn yn cynnwys sefydlu timau gofal alcohol ym mhob ardal bwrdd iechyd, a chynnal ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth.

Mae marwolaethau yng Nghymru o glefyd yr afu wedi mwy na dyblu yn yr ugain mlynedd diwethaf, a hynny’n bennaf o ganlyniad i'r cynnydd mewn gordewdra, camddefnyddio alcohol a hepatitis feirysol a gludir yn y gwaed. Er hynny, mae modd atal bron pob achos o glefyd yn yr afu sy'n digwydd o ganlyniad i'r tri ffactor hyn.

Bydd y mesurau, a ariennir gan gyllid o £2.4 miliwn dros y tair blynedd nesaf, yn helpu i roi Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefyd yr Afu ar waith, yn nodi sut y bydd GIG Cymru a'i bartneriaid yn cydweithio i atal y twf mewn clefyd yr afu yng Nghymru.

Bydd buddsoddiad o £1 miliwn i sefydlu Timau Gofal Alcohol i ddarparu gofal eilaidd ledled Cymru. Bydd hyn yn sicrhau rheolaeth well ac ymyrraeth briodol ar gyfer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty am resymau sy'n gysylltiedig ag alcohol. Hefyd, bydd gwaith y timau'n helpu i leihau nifer yr aildderbyniadau sy'n gysylltiedig ag alcohol a'r galw am wasanaethau gofal eilaidd.

Bydd swm o £300,000 yn cael ei fuddsoddi mewn ymgyrch newydd i hybu iechyd yr afu ac atal clefyd yr afu er mwyn lleihau'r galw am driniaeth. Drwy gydweithio ag ymgyrchoedd sy'n bodoli eisoes ar gyfer codi ymwybyddiaeth o hepatitis feirysol, camddefnyddio alcohol a gordewdra, bydd yr ymgyrch newydd yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r risgiau sy'n gysylltiedig â chlefyd yr afu.

Bydd mesurau eraill yn cynnwys:

* £300,000 i wella'r broses o adnabod, profi a chyfeirio pobl sydd â chlefyd cynnar yr afu;

* £200,000 i benodi arweinydd cenedlaethol i weithio ar draws byrddau iechyd i wella ansawdd gwasanaethau ar gyfer clefyd yr afu;

* £200,000 i ddatblygu gwasanaethau newydd, creu llwybrau triniaeth mwy effeithlon a gwella safonau gofal;

* £150,000 o arian cyfatebol ar gyfer prosiectau mewn partneriaeth â'r byd diwydiant i roi'r cynllun cyflawni ar waith;

* Er mwyn gwella cyfraddau trawsblannu afu, bydd swm o £150,000 yn cael ei fuddsoddi i helpu i ddatblygu gwasanaethau arbenigol megis gwasanaethau; rhanbarthol ar gyfer carsinoma hepatocellog a llwybrau trawsblannu cenedlaethol.

Dywedodd Mr Gething: “Mae nifer y bobl sy'n dioddef o glefyd yr afu ar gynnydd yng Nghymru. Rydym yn gwybod na ellir osgoi rhai achosion, ond ein ffordd o fyw sy'n gyfrifol am lawer ohonynt - alcohol yw prif achos clefyd yr afu o hyd. 

“Cyhoeddwyd ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu flwyddyn diwetha, ac mae'n nodi sut y mae GIG Cymru yn bwriadu atal y twf mewn clefyd yr afu a'r marwolaethau sy'n gysylltiedig, rhoi mwy o gymorth i gleifion, gwella ansawdd gwasanaethau, gwella gwybodaeth arbenigol am glefyd yr afu ledled y gwasanaeth iechyd, ac annog cleifion i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u gofal.

"Mae'r mesurau newydd sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yn canolbwyntio ar addysg, ymyrraeth ac ataliaeth gynnar, ac ar ddulliau o ddarparu'r gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn.

"Bydd GIG Cymru yn parhau i roi triniaeth i'r rheini y mae arnynt ei hangen, ond mae'n rhaid i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb dros ein hiechyd a'n dewisiadau o ran ffordd o fyw.”

Rhannu |