Mwy o Newyddion
Leanne Wood yn addo gwneud i’r pwrs cyhoeddus weithio i gwmnïau Cymreig
Bydd Plaid Cymru yn rhoi hwb i'r economi Gymreig drwy gefnogi cwmniau cartref - dyna addewid yr arweinydd Leanne Wood heddiw.
Dywedodd Ms Wood y byddai ei phlaid mewn llywodraeth yn gweithio tuag at godi lefelau caffael cyhoeddus yn agosach at rai yr Almaen a Ffrainc ble fo tua 98% yn cael eu hennill gan gwmniau o fewn ein ffiniau.
Mae cynnydd da wedi ei wneud mewn blynyddoedd diweddar, yn enwedig dan Blaid Cymru yn ystod llywodraeth Cymru'n Un 2007-2011. Cynyddodd cyfradd y cartref-gaffael yng Nghymru i 52%, i fyny o 35% yn 2004.
Ers llywodraeth Cymru'n Un serch hyn, mae llywodraeth Llafur wedi llaesu dwylo drwy ond sicrhau cynnydd o 3% er 2012.
Mae Plaid Cymru wedi addo y byddai'n deddfu i geisio cyrraedd y targed o 75%. Gyda dadansoddi'n dangos fod tua 2,000 o swyddi yn cael eu creu am bob 1% o gynnydd, byddai hyn yn creu hyd at 40,000 o swyddi newydd yng Nghymru.
Ni fydd hyn yn golygu gwariant ychwanegol, dim ond yr ewyllys wleidyddol i fuddsoddi mewn datblygu arferion caffael dyfeisgar a deddfu doeth.
"Mae hi'n amlwg fod Cymru angen mwy o swyddi a gwell swyddi," medd Ms Wood.
"Dylai gwella lefelau caffael cyhoeddus lleol i wneud i arian cyhoeddus weithio'n well i bobl yma yng Nghymru fod yn beth amlwg i'w wneud.
"Mae'n ddirgelwch pam fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi esgeuluso'r cyfle hwn i gefnogi cwmniau cartref a chreu cyfoeth yng Nghymru.
"Ni fyddai llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru yn gwneud yr un camgymeriad.
"Mae Plaid Cymru yn cydnabod gwerth mentrau bach a chanolig i'r economi Gymreig. Rydym eisiau i'r busnesau hynny weithredu fel catalydd i adferiad economaidd.”
Ychwanegodd Ms Wood: "Nid oes dim sy'n anochel am Gymru.
"Nid oes rhaid i ni aros ar waelod pob tabl ffyniant yn y DU.
"Nid oes rhaid i ni ddioddef rhai o'r lefelau diweithdra uchaf yn y DU sy'n gorfodi cynifer o'n pobl ifanc medrus i adael y wlad i edrych am waith.
"Ac nid oes rhaid i ni ethol llywodraeth Lafur arall.
"Mae'r blaid honno wedi cael dwy flynedd ar bymtheg i wrthdroi tranc ein heconomi ac mae hi wedi methu.
"Mae'n bryd am syniadau ffresh ac uchelgais os ydym am wella ein sefyllfa - mae Plaid Cymru'n cynnig y newid sydd ei angen."