Mwy o Newyddion
Cyllid ychwanegol i geisio sicrhau rhagor o bleidleiswyr
Wrth i wythnos cofrestru i bleidleisio dynnu at ei therfyn, mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi cymryd camau i gynyddu nifer y bobl sy'n cofrestru i bleidleisio yng Nghymru.
Mae'r Gweinidog eisoes wedi mynegi ei siom ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i ruthro i gyflwyno'r system cofrestru etholiadol unigol cyn etholiad y Cynulliad. Roedd hefyd yn cefnogi barn y Comisiwn Etholiadol y dylid gohirio cyflwyno'r system.
Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi gwerth £330,000 o gyllid i awdurdodau lleol i helpu i gynyddu nifer y pleidleiswyr ar y gofrestr etholwyr. Bydd hyn yn eu galluogi i anfon llythyr i bob cartref yng Nghymru i wirio bod yr wybodaeth ar y gofrestr etholiadol yn gywir, wedi i'r un broses roi canlyniadau da y llynedd.
#Cymru2016 – Cofrestrwch a phleidleisiwch yn etholiad y Cynulliad ar 5 Mai
Dywedodd Leighton Andrews: “Rwyf wedi cwrdd â'r Comisiwn Etholiadol yr wythnos hon ac wedi trafod ffyrdd o gynyddu nifer y bobl sy'n cofrestru a phleidleisio.
“Mae wedi bod yn gyfnod o bwysau yn sgil y system newydd o Gofrestru Etholiadol Unigol ac rwy'n gwybod bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn gweithio'n galed i gynhyrchu cofrestrau cywir. Bydd y cyllid hwn yn eu helpu i wneud hynny.
“Mae myfyrwyr yn un o'r grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ymhlith y bobl sy'n cofrestru ac yn pleidleisio.
"Dyna pam rwyf hefyd wedi cytuno i ddarparu cyllid i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (Cymru) i ddatblygu adnodd ar y we i ddarparu gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio a dod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio.
"Rwyf wedi annog swyddogion cofrestru i helpu gyda hyn.”