Mwy o Newyddion
Cronfa i barhau yng Nghymru i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol
Mae Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cadarnhau bod £27m ar gael i barhau i gefnogi dros 1,600 o bobl anabl yng Nghymru i fyw'n annibynnol.
Sefydlwyd Grant Byw'n Annibynnol Cymru gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2015, yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth y DU i ddod â'r Gronfa Byw'n Annibynnol i ben.
Mae'r Grant Byw'n Annibynnol yn cefnogi pobl anabl sydd ag anghenion gofal sylweddol a fu'n cael taliadau gan y Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu am y costau ychwanegol o fyw'n annibynnol, sy'n cynnwys help i fwyta ac yfed; coginio a pharatoi bwyd a diod; help i wisgo; glanhau, golchi dillad a gwaith tŷ arall.
Ar ôl i'r Grant Byw'n Annibynnol ddod i ben, sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun grant gydag arian wedi'i neilltuo, i'w weinyddu gan yr awdurdodau lleol, sef Grant Byw'n Annibynnol Cymru. Bydd y grant hwn yn parhau tan 31 Mawrth 2017 o leiaf. Dan y cynllun hwn, darparwyd £20.4m i awdurdodau lleol yn 2015-16 er mwyn eu galluogi i gynnal taliadau ar yr un lefel i'r rhai a arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa.
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cadarnhau bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn cynnwys £27m i alluogi Grant Byw'n Annibynnol Cymru i barhau hyd at 31 Mawrth 2017, yn unol â'r cynllun.
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Mae Grant Byw'n Annibynnol Cymru wedi gweithio'n dda, gyda phobl anabl a arferai gael taliadau o'r Gronfa bellach yn eu cael gan eu hawdurdod lleol yn lle hynny. Hoffwn ddiolch i'r awdurdodau lleol am y rôl hanfodol maen nhw wedi'i chwarae i sicrhau bod hyn yn llwyddiant.
“Mae'n bleser gen i gadarnhau bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn cynnwys £27m i alluogi Grant Byw'n Annibynnol Cymru i barhau hyd at 31 Mawrth 2017, yn unol â'r cynllun.
"Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i roi taliadau i'r derbynwyr yn y flwyddyn ariannol nesaf ar yr un lefel â'r Gronfa Byw'n Annibynnol pan ddaeth i ben, gan eu helpu i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Rwy'n sicr y bydd hyn yn newyddion da iawn i'r rheini sy'n ei dderbyn."
Ychwanegodd y Gweinidog fod y £27m sy'n cael ei drosglwyddo o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru yn ddigon i fedru cynnal taliadau ar yr un lefel â thaliadau'r Gronfa pan ddaeth i ben. Er hyn, nid oes arian yn y gronfa i dalu am newid i anghenion unigolyn neu am unrhyw newidiadau i gost y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Meddai: "Mae'r £27m y flwyddyn y mae Llywodraeth y DU yn ei neilltuo yn anfoddhaol gan ei fod yn cyfyngu'n fawr ar yr opsiynau sydd ar gael i ni ar gyfer rhoi cymorth yn y tymor hwy.
"Oherwydd hyn, rwy'n dymuno ystyried tri opsiwn tymor hwy ymhellach i nodi pa un fyddai orau i ddarparu cymorth effeithiol, er gwaetha'r sefyllfa ariannol anodd.
“Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gyda chynrychiolwyr y rhanddeiliaid i ddatblygu manylion am y tri opsiwn dan sylw, o ran sut y gellid eu rhoi ar waith, y manteision a'r heriau. Rydw i wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny cyn gynted â phosib, er mwyn i'r Llywodraeth newydd fedru gwneud penderfyniad yn gynnar yn nhymor nesaf y Cynulliad ynghylch pa opsiwn i'w roi ar waith.
“Bydd hyn yn sicrhau bod digon o amser ar gael i ystyried a gosod trefniadau ar gyfer y dyfodol, er mwyn iddynt fod yn barod erbyn y daw Grant Byw'n Annibynnol Cymru i ben ar 31 Mawrth 2017.”