Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2011

Golygfeydd Eryri yn tanio creadigrwydd

Cafodd ambell deithiwr ac arlunydd ei swyn gyfareddu gan ysblander Eryri yn y blynyddoedd a fu, ond mae ei harddwch naturiol eithriadol bellach yn fan delfrydol i fagu mentergarwch.

Mae'r gôf Joe Roberts o Fethesda a’r arwerthwraig Heather Cooper o Lanberis yn rhannu yr un brwdfrydedd i lwyddo yn eu hardal leol gan gyfuno eu dawn greadigol gyda dyfeisgarwch busnes.

"Rwy'n ffodus fy mod yn gweithio ymysg golygfeydd trawiadol," meddai Joe Roberts sy’n gweithio i Gyngor Cefn Gwlad Cymru. "Mae'r tirwedd wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth imi ac yn addas iawn, fy nghomisiwn cyntaf oedd i ddylunio giât haearn ar gyfer gwarchodfa natur Cwm Idwal ym mherfeddion Eryri".

Mae'r arlunydd 31 mlwydd oed, yn edrych ymlaen am ei her gyffrous nesaf pan fydd yn agor ei arddangosfa gyntaf yn Galeri, Caernarfon dydd Gwener yma, lle y bydd yn dod â'i waith i sylw’r cyhoedd.

Entrepreneur arall gyda greddf greadigol yw Heather Cooper. Fe’i gyrrwyd i ddechrau’r busnes gan ei hawydd i gyflenwi dillad ac anrhegion a wnaed yn lleol. Y llynedd, agorodd Heather ei siop ei hun Cân y Graig ar Stryd Fawr Llanberis.

 

"Teimlwn ar y pryd y byddai’n syniad imi wneud cyfraniad cadarnhaol i'r gymuned leol gan helpu i gryfhau Llanberis fel cyrchfan siopa," ychwanegodd.

Yn union fel Joe Roberts, bydd y gwanwyn yma yn gyfnod nodedig i Cân y Graig, pan fydd Heather yn dathlu blwyddyn lawn o fasnachu.

"Mae'r siop wedi rhagori heb os, gyda misoedd y gaeaf hefyd yn brysur, a llawer o rheiny yn bobl leol. Dwi’n ffodus i weithio gyda dillad o safon a chynhyrchwyr rhoddion gwych o Wynedd sy'n helpu i wneud fy siop yn wahanol."

Derbyniodd Joe a Heather nawdd gan Gronfa Galluogi: Teuluoedd Fferm sy’n rhan o brosiect “Llwyddo yng Ngwynedd” sef yr enw a roddir ar brosiectau Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru (2007-2013) sy’n gweithredu yng Ngwynedd. Caiff y prosiectau eu c gydlynu gan Gyngor Gwynedd ar ran Partneriaeth Economaidd Gwynedd.


Nododd Zoe Pritchard, Cydlynydd y Gronfa Galluogi, fod “Gwynedd yn ganolbwynt bywiog ar gyfer y diwydiannau creadigol. Mae tirwedd trawiadol y Sîr yn fan delfrydol i fyw ac i gychwyn busnes.”

Gellir cysylltu â Zoe Pritchard ar 01766 514057, zoe@mentermon.com neu galwch heibio i Swyddfa Annog Cyf. yn 146 Stryd Fawr, Porthmadog am sgwrs anffurfiol.

Rhannu |