Mwy o Newyddion
Y peth iawn i'w wneud
MAE llywodraethau’r byd wedi gwneud camgymeriad mawr yn y ffordd y maen nhw wedi mynd ati i drio perswadio pobol i ail-gylchu mwy a llygru llai, yn ôl newyddiadurwr ac ymgyrchwr o Gymru.
Nid trwy werthu’r syniad o fod yn ‘wyrdd’ fel rhywbeth a all greu elw personol y mae achub y ddaear, meddai George Monbiot, sy’n byw ger Machynlleth ac sy’n ysgrifennu’n gyson i bapur newydd The Guardian ar faterion amgylcheddol.
Wrth iddo ddechrau ar ei daith areithio o amgylch gwledydd Prydain yr wythnos hon, gan geisio annog trafodaeth wyneb-yn-wyneb â chynulleidfaoedd o Glasgow i Lundain, o Fryste i Hull, mae’n bendant na ddaeth fawr ddim lles hyd yma o ddadlau hunanol llywodraethau’r byd ar leihau allyriadau carbon.
“Rydw i wedi dod i gredu bod yn rhaid apelio at ochr dda dynoliaeth os ydan ni am wneud gwahaniaeth,” meddai George Monbiot wrth Y Cymro. “Mae’n rhaid apelio at yr ochr sy’n gallu uniaethu â phobol ac â gwledydd eraill, yr ochr garedig a chydwybodol, a’r ochr sy’n ystyried lles eraill.
“Mae’n rhaid i lywodraethau’r byd gytuno eu bod nhw am leihau allyriadau carbon oherwydd mai dyna’r peth iawn i’w wneud,” meddai wedyn. “Hyd yma, maen nhw wedi’i chael hi’n hollol anghywir. Maen nhw wedi bod yn dadlau ar sail y set anghywir o werthoedd.
“Nid trwy hybu hunanoldeb y mae achub y byd. Nid trwy wneud i bobol feddwl am yr hyn y bydden nhw’n ei golli, neu’r ffyrdd y gallen nhw ymelwa’n bersonol o fod yn wyrdd, y mae ei wneud o.
“Mae llywodraethau’r byd wedi bod yn apelio at natur hunanol y ddynoliaeth, ac mae hynny’n anghywir. Meddyliwch mor bwerus fyddai dadlau o ran yr hyn sy’n iawn, lledu neges o wneud yr hyn sy’n garedig ac a fyddai’n gwella byd pobol eraill.
“Ond, mae o i gyd yn dibynnu ar ba fath o fyd ydan ni isio byw ynddo fo,” meddai George Monbiot. “Ydan ni am weld byd sy’n ffynnu a lle mae pobol yn parchu’i gilydd, ynteu a ydan ni’n fodlon byw mewn byd gwag a llygredig?”
Methiant ym Mecsico
Mae’r amgylcheddwr sydd wedi treulio dros ddau ddegawd yn ymgyrchu yn erbyn difodi’r ddaear ac effeithiau negyddol cyfalafiaeth ar wledydd a chymunedau, wedi’i siomi a’i dolcio gan fethiant llywodraethau’r byd i weld ffordd glir ymlaen ar fater llygredd.
Mewn darlith ddechrau’r flwyddyn yng Nghanolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth, fe aeth mor bell â dweud fod y drafodaeth ryngwladol bellach “ar ben”; at y modd y “chwalodd” trafodaethau newid yn yr hinsawdd Cancun, Mecsico, fis Rhagfyr diwethaf; a’r modd y daeth yr holl obeithion cyn cynhadledd Copenhagen ym mis Rhagfyr 2009, hefyd i ddim.
Mae’r broses ryngwladol, meddai, “wedi marw”, ac mae’n anodd gwybod sut y dylai ymgyrchwyr barhau i ymladd yr achos.
“Mae o’n torri calon rhywun, ac mae’n gallu torri’r ysbryd hefyd,” ychwanegodd. “Mae rhywun yn gwybod fod y drefn yn gyfan gwbl amherffaith o’r dechrau, ond mae rhywun yn fodlon gweithio oddi fewn i’r terfynau a’r amodau hynny er mwyn trio cael y maen i’r wal a chreu proses sy’n mynd i weithio.
“Ond erbyn hyn, dw i’n gweld mai’r cyfan y mae llywodraethau’r byd yn ei wneud yn ystod y cynadleddau mawr yma ydi creu cyfleoedd i’r lleill droi yn erbyn y broses, nes bod y drefn yn methu.
“Ac fe sylwch chi hefyd nad ydi gwledydd yn trafferthu anfon eu harweinwyr, neu hyd yn oed eu gwleidyddion amlycaf, i’r cyfarfodydd hyn. Felly, yr hyn sydd ganddoch chi, i bob pwrpas, ydi glanhawyr swyddfa yn trafod ymysg ei gilydd.”
Y byd - beth ydi’r ateb?
Mae’n rhaid i lywodraethau’r byd roi’r gorau i feddwl am lygredd yn nhermau gwledydd unigol, yn ôl George Monbiot. Yn hytrach, mae’n rhaid iddyn nhw osod targed ar gyfer y mwyafswm o garbon sy’n dderbyniol i’w allyrru, a gweithio gyda’i gilydd i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n croesi’r trothwy hwnnw, meddai.
“Rydw i wedi bod yn dadlau ers rhai blynyddoedd bellach fod yn rhaid newid y ffordd y mae’r drafodaeth ynglŷn â llygredd a newid yn yr hinsawdd yn digwydd,” meddai George Monbiot.
“Mae’n rhaid tynnu pwysau oddi ar wledydd a chenhedloedd unigol, ac ystyried y mater ar draws y byd. Felly, yn hytrach na bod gwlad sy’n llygru tipyn yn meddwl am ffyrdd o gael gwared ar ei gwastraff a throsglwyddo’r llygredd i gyfri’ gwlad arall, mae’n rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb am lygredd y byd yn gyfan.
“Dyna sy’n deg, ac mae’n ffordd newydd o feddwl am bethau. Oherwydd, ar hyn o bryd, lle mae’r broses bresennol yn mynd â ni? I nunlle, dyna lle. Felly, oni fasa hi’n decach ac yn well rhoi’r gorau i’r ffordd unigolyddol o feddwl, a chydweithio.
“Pan ydw i wedi codi’r mater hwn, dw i’n cael yr un ateb, sef ‘Rydan ni wedi gallu cael y gwledydd i gyd rownd y bwrdd, ond os newidiwn ni bethau, mi gollwn ni nhw, ac mi gollwng ni bopeth’. Ond dw i’n dal i ofyn, pam na fedrwn ni daflu popeth allan trwy’r ffenest, a dechrau eto?
“I fi, dyna’r unig beth synhwyrol i’w wneud.”
Dadl ar daith
Dros y pedwar mis nesaf, fe fydd George Monbiot yn cynnal 11 o nosweithiau yn Lloegr, gan fwyaf, lle mae’n gobeithio y bydd pobol yn dod i ddadlau gydag o.
Gan ddechrau yn Coventry echnos, mae’n annog trafodaeth wyneb-yn-wyneb ynglŷn â materion y dydd.
“Mae dadlau yn frwd ac yn adeiladol yn rhywbeth sy’n fy nghyffroi i,” meddai George Monbiot. “Mae yna gymaint o bobol heddiw yn gwneud sylwadau cas ac annifyr yn ddienw ar y we – ac mae’n iawn i bawb gael dweud eu dweud, dydw i ddim yn gwrthwynebu hynny – ond does yna ddim atebolrwydd yn hynny.
“Be’ fydda’ i’n ei wneud bydd dadlau fy achos am rai munudau, ac yna, yn ail hanner y noson, gwahodd pobol i ddadlau yn fy erbyn a chwalu fy nadl yn ddarnau. Efallai y byddan nhw’n llwyddo, efallai ddim… ond mae’r ffaith nad oes posib rhagweld sut fydd pethau’n mynd, yn ddiddorol iawn i mi.
“Mae dadlau yn bwysig, ac mae yna werth yn bendant i allu dadlau’n ddiddorol, gyda hiwmor ac mewn ffordd sy’n diddanu eraill,” meddai George Monbiot wedyn.
“Does dim ots os ydi pobol yn anghytuno’n llwyr efo’r hyn dw i’n ei ddweud, dw i’n canfod yn aml mai trwy wrando arnyn nhw a gorfod dadlau yn eu herbyn nhw, y bydda’ i’n dysgu fwya’ am fy safbwynt i fy hun. Ac mae hynny yn beth gwerthfawr iawn.”