Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Chwefror 2016

Meithrinfa Cyffordd Llandudno yn allweddol i gefnogi’r Gymraeg, meddai’r Prif Weinidog

Bydd meithrinfa Derwen Deg yng Nghyffordd Llandudno yn gaffaeliad pwysig i ardal arfordir y Gogledd, yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

 Mae’r cyfleuster, a agorwyd yn swyddogol gan y Prif Weinidog, yn darparu meithrinfa cyfrwng Cymraeg i deuluoedd ar hyd yr arfordir o Lanfairfechan i Fae Cinmel. 

Datblygwyd y prosiect mewn partneriaeth rhwng rhiant lleol a Menter Iaith Conwy, ac fe ddaeth y rhan fwyaf o’r cyllid drwy Cyfenter a Chronfa Cymunedau Arfordirol y Loteri Genedlaethol.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Rwy’n falch iawn bod Menter Iaith Conwy mor rhagweithiol wrth helpu’r gymuned i sefydlu meithrinfa cyfrwng Cymraeg ar arfordir Conwy. 

“Mae annog teuluoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn elfen bwysig o’r gwaith o gynnal a chynyddu’r defnydd o’r iaith, ac mae meithrinfa cyfrwng Cymraeg yn allweddol yn hyn o beth. Mae wedi bod yn dda gweld cefnogaeth y bobl leol i’r cyfleuster newydd hwn, gan gadarnhau bod angen amdano yn lleol.

“Mae wedi bod yn bleser ymweld â’r feithrinfa. Bydd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal gan roi cyfle i blant ddysgu’r iaith o’r cychwyn cyntaf.”

Dywedodd Gwyn Roberts, Cadeirydd bwrdd Meithrinfa Derwen Deg: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Prif Weinidog am ei anogaeth. Rydyn ni’n falch bod ein rhieni’n cydnabod ein bod yn darparu gwasanaeth gwerthfawr mewn ardal lle bu prinder darpariaeth cyfrwng Cymraeg ers nifer o flynyddoedd.

“Mae ein cwmni cymunedol, gyda chymorth Menter Iaith Conwy, wedi creu cyfleoedd swyddi newydd i siaradwyr Cymraeg. Rydyn ni’n cefnogi busnesau lleol, ac wedi sefydlu perthynas waith dda gyda Choleg Llandrillo Menai.

“Fe gafwyd cymorth nifer o bobl ysbrydoledig i sefydlu’r feithrinfa, a diolch iddyn nhw rydyn ni wedi cyrraedd y fan hon.”
 

Rhannu |