Mwy o Newyddion
£43m o hwb cyfalaf i ysgolion a thai cymdeithasol i greu 800 o swyddi meddai Jane Hutt
Heddiw cyhoeddodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth y bydd ysgolion a phrosiectau tai cymdeithasol ar hyd a lled Cymru yn elwa ar £43m o hwb buddsoddiad cyfalaf ar unwaith.
Bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn rhoi hwb i gyflogaeth yng Nghymru gan gefnogi hyd at 800 o swyddi – gan gynnwys 300 i ddylunio ac adeiladu ysgolion newydd yn ein cymunedau a 500 i ddarparu tai fforddiadwy.
Bydd cyfanswm o £23m yn cael ei ddyrannu i brosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif ym mhob un o'r 22 o awdurdodau lleol yn ystod 2015-16, gan gefnogi'r gwaith o ailadeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau. Bydd £20m pellach yn cael ei ddyrannu i'r grant Tai Cymdeithasol i helpu i adeiladu tua 230 o dai fforddiadwy ar hyd a lled y wlad.
Fe wnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad yn dilyn cyfres o ymweliadau â chynlluniau blaenorol sydd wedi cael cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru yn y Gogledd. Yn ystod ei chyfnod yn y Gogledd, fe ymwelodd y Gweinidog â Champws Dysgu Treffynnon sydd wedi cael £15.5m trwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a datblygiad tai fforddiadwy Llys Santes Ann sydd wedi cael £693,000 trwy'r grant tai cymdeithasol.
Dywedodd Jane Hutt: "Rydym bob amser wedi bod yn glir ynghylch pwysigrwydd buddsoddi yn ein seilwaith o ran y manteision cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn ei sgil. Ddoe gwelais y manteision hyn gyda'm llygaid fy hun – o'r cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf sydd wrthi'n cael eu hadeiladu ar gampws dysgu Treffynnon i ddatblygiad tai cymdeithasol Llys Santes Ann sy'n darparu tai fforddiadwy i breswylwyr lleol yn Wrecsam.
"Mae'n bleser gen i felly gyhoeddi £43m o hwb ar unwaith i brosiectau tai cymdeithasol ac Ysgolion yr 21ain Ganrif ar hyd a lled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Trwy'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru rydym wedi gosod cyfeiriad clir ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith ar hyd a lled Cymru, a bydd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi manteision gwirioneddol a hirdymor i bobl."
Ochr yn ochr â'r buddsoddiad cyfalaf ychwanegol, mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi diweddariad ar lif o brosiectau arfaethedig y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae hyn yn unol â'n huchelgais i ddarparu darlun cynhwysfawr o fuddsoddi mewn seilwaith ar hyd a lled Cymru
Mae'r llif o brosiectau arfaethedig ar gael yma http://gov.wales/funding/wiipindex/?skip=1&lang=cy