Mwy o Newyddion
Cost plismona yn codi dim ond 9c yr wythnos
Bydd cost plismona yng Ngogledd Cymru yn codi dim ond 9 ceiniog yr wythnos i’r cartref cyffredin.
Cafodd y cynnydd o 2% y gofynnodd Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru amdano ei gytuno gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac mae’n golygu cynnydd o £4.68 y flwyddyn, i fyny i gyfanswm o £240.12 y flwyddyn i eiddo Band D.
Dros y pum mlynedd diwethaf bu’n rhaid i Heddlu Gogledd Cymru wneud toriadau o £24 miliwn i’w cyllideb a disgwylir y bydd yn angenrheidiol gwneud £7.3 miliwn o doriadau eto dros y pedair blynedd nesaf.
Clywodd y cyfarfod hefyd fod cynlluniau i dorri’r nifer o Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu wedi cael eu gohirio am y tro.
Yn ôl Philip Evans YH, aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae’r hyn y mae’r Comisiynydd wedi llwyddo i’w wneud yn wyneb y toriadau ‘yn wyrthiol".
Meddai: "Mae Winston yn haeddu marciau llawn. Mae’r cynnydd yn ganmoladwy o ystyried yr amgylchiadau."
Dywedodd Mr Roddick ei fod yn croesawu adolygiad o wariant Canghellor y Trysorlys, George Osbourne sydd wedi dweud na fydd rhagor o doriadau i’r gyllideb blismona eleni, ond er hynny y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn dal i wynebu hinsawdd economaidd heriol dros ben.
Meddai: "Rydw i’n credu fod ein cyllideb unwaith eto’n cydbwyso darbodaeth ariannol â’r gallu i gadw Gogledd Cymru yn lle diogel i fyw, i weithio ac i ymweld ag o.
"Mae’n golygu fod gweithio mewn partneriaeth wedi dod yn bwysicach nag erioed ac mae’n flaenoriaeth uchel yn fy nghynllun heddlu a throsedd diwygiedig, sef yr hyn y mae’r praesept yn seiliedig arno.
“Mae hyn nid yn unig er mwyn helpu Heddlu Gogledd Cymru a’i bartneriaid i oresgyn yr heriau ariannol ond hefyd er mwyn fy helpu i ddarparu fy nhair blaenoriaeth arall sef atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, darparu ymateb effeithiol a lleihau niwed a’r risg o niwed.
“Mae gweithio mewn partneriaeth yn galluogi ymatebion mwy effeithiol a mwy buddiol i’r gymuned yn yr hirdymor. Mae hefyd yn lleihau galw ac yn cynyddu capasiti staff rheng flaen.
“Mae’n rhaid i ni gwrdd â her y galwadau cynyddol ar blismona sydd erbyn hyn yn cynnwys cam-fanteisio’n rhywiol ar blant a throseddau seiber, ac mae’r ymosodiadau terfysgol diweddar ym Mharis ac mewn mannau eraill yn golygu fod gennym ni, fel ardal sy’n gyfrifol am borthladd prysur, hefyd gyfrifoldebau ychwanegol o ran atal terfysgaeth.
"Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n ymateb yn briodol gan ystyried ar yr un pryd y toriadau o dros £7miliwn y bydd yn rhaid eu gwneud dros y pedair blynedd nesaf.
“O gofio’r arbedion o £24m sydd wedi’u gwneud yn barod, bydd gwneud o leiaf £7m o arbedion eto yn her sylweddol ac yn un a fydd yn arwain at newidiadau yn y ffordd y mae plismona’n digwydd yng Ngogledd Cymru.
“Rydym wedi penderfynu peidio â defnyddio ein cronfeydd wrth gefn oherwydd bod angen diogelu plismona’r dyfodol drwy fuddsoddi mewn gorsafoedd heddlu newydd sydd eu gwir angen yn Wrecsam a Llandudno, a thrwy barhau i recriwtio er mwyn cynnal niferoedd rheng flaen a fyddent fel arall yn gostwng o ganlyniad i ymddeoliadau.
"O ganlyniad rwy’n fodlon y byddwn yn gallu plismona Gogledd Cymru yn effeithiol er y bydd yn fwy o her byth.
"Yn y dyfodol mae angen i ni sicrhau gwerth gwell eto am arian ac mae rhagor o waith i’w wneud o ran cydweithio mwy gyda heddluoedd eraill er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd o’r adnoddau sydd gennym.
“Nid yw’r toriadau diweddaraf yn cynnwys gostyngiad mewn Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu fel y rhagwelwyd yn wreiddiol ac mae’r cynnydd hwn o 2% yn galluogi Heddlu Gogledd Cymru i gadw cydbwysedd rhwng diogelu’r gwasanaeth a fforddiadwyedd.
“Rydw i wedi bod mewn trafodaethau gyda’r Prif Gwnstabl sydd wedi cadarnhau fod y cynnydd yn rhoi cyllideb ddigonol i alluogi darpariaeth weithredol y gwasanaeth plismona yn 2016/17.”