Mwy o Newyddion
Y Gweinidog Iechyd yn cadarnhau bod cyllid wedi'i sicrhau i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn Ysbyty Glangwili
Heddiw, dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod cyllid ar gael i gefnogi gwelliannau i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17.
Fe wnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Chaerfyrddin i weld yr uned newyddenedigol newydd yn Ysbyty Glangwili.
Mae £3m wedi'i glustnodi yn rhaglen gyfalaf y gwasanaeth iechyd ar gyfer 2016/17 i ddechrau ail gam y gwelliannau i wasanaethau obstetreg a newyddenedigol yn Ysbyty Glangwili, sy'n amodol ar gymeradwyo'r cynlluniau a gyflwynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae disgwyl i'r bwrdd iechyd gyflwyno ei achos busnes ar gyfer ail gam y gwelliannau yn gynnar yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Roedd gwasanaeth mamolaeth dan ofal ymgynghorwyr meddygol wedi'i ganoli ac mae gwasanaeth newyddenedigol lefel dau newydd yn cael eu datblygu yn Ysbyty Glangwili yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chyngor gan arbenigwyr annibynnol i'r Gweinidog. Mae gwasanaeth mamolaeth newydd dan arweiniad bydwragedd wedi'i sefydlu yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Cynhaliwyd adolygiad annibynnol gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant flwyddyn wedi i'r newidiadau hyn gael eu gwneud, gan ddod i'r casgliad bod y newidiadau yn ddiogel, yn gynaliadwy yn y tymor hir a'u bod wedi arwain at ganlyniadau gwell i famau a babanod. Roedd yn dweud yn glir na fyddai'n gwneud 'dim synnwyr clinigol' i fynd yn ôl i'r trefniadau blaenorol.
Dywedodd yr Athro Drakeford: "Rwy'n falch o ymweld ag Ysbyty Glangwili heddiw i weld y gwaith ardderchog sydd wedi'i wneud i drosglwyddo'r gwasanaethau gofal arbennig i fabanod o Ysbyty Llwynhelyg, gyda £3.8m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
"Flwyddyn wedi i'r newidiadau gael eu rhoi ar waith, mae adolygiad y Coleg Brenhinol yn dweud bod y gwasanaethau hyn yn ddiogel, yn gynaliadwy yn y tymor hir ac yn bwysicaf oll, wedi arwain at ganlyniadau gwell i famau a babanod. Roedd yr adolygiad hefyd yn dweud yn glir na fyddai'n gwneud 'dim synnwyr clinigol' i ddychwelyd i'r trefniadau blaenorol. Byddai'n anghyfrifol iawn anwybyddu barn yr arbenigwyr.
"Mae'n bleser gen i gyhoeddi fy mod wedi clustnodi £3m i ail gam y gwelliannau sydd angen ei wneud yn Ysbyty Glangwili, sy'n amodol ar achos busnes yn cael eu gymeradwyo."