Mwy o Newyddion
Cyfle i ennill Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2016
Mae ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos bod mwy na £67 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi'i ddyfarnu ar draws Cymru'r llynedd yn unig.
Dosbarthwyd 2,112 o grantiau'r Loteri ar draws Cymru yn ystod 2015; gan roi hwb hanfodol i brosiectau celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth ochr yn ochr â grwpiau cymunedol gan helpu'r rhai mwyaf anghenus.
Derbyniodd amrywiaeth eang o brosiectau lleol grantiau'r Loteri Genedlaethol y llynedd, gan gynnwys:
· £5,000 i BulliesOut yng Nghaerdydd i roi cyfle i o leiaf 10 o'u llysgenhadon ifanc o Dde Cymru i ennill achrediad gwobr cyflawniad ieuenctid.
· £4,100 i Gymdeithas Eryri am y prosiect Growing Ty Hyll i roi hwb i wybodaeth a hyder teuluoedd mewn sgiliau amgylcheddol megis garddio bywyd gwyllt a rheoli coetir.
· £5,000 i Pontarddulais and District Community Car Scheme Ltd i brynu car newydd i drefnu trafnidiaeth i bobl hŷn a phobl ag anableddau o fewn eu cymuned.
· £13,554 i Glwb Rygbi Brynbuga i ddatblygu eu Cae Iau a Datblygu Cae Hyfforddi
O heddiw ymlaen, mae gan yr enghreifftiau hyn, neu unrhyw sefydliad arall sydd erioed wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol, gyfle i ennill cydnabyddiaeth genedlaethol trwy gystadlu yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2016.
Bydd enillwyr Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn ennill gwobr ariannol o £3,000 a chydnabyddiaeth genedlaethol mewn seremoni fawreddog a ddarlledir ar BBC One ym mis Hydref.
Dywedodd John Barrowman, cyflwynydd sioe Gwobrau'r Loteri Genedlaethol y llynedd: “Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn cynnig cyfle heb ei ail i brosiectau neilltuol serennu. Os allwch chi feddwl am brosiect gwych sy'n cael ei ariannu gan y Loteri, enwebwch hwy am Wobr.
“Ariennir yr holl brosiectau gwych hyn gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol - dylai bob un ohonoch fod yn falch eich bod yn codi swm rhyfeddol o £34 miliwn yr wythnos, sy'n rhoi cefnogaeth y mae ei hangen yn fawr ar waith sy'n newid bywydau."
Dosberthir Gwobrau'r Loteri Genedlaethol ar draws saith categori: Chwaraeon, Treftadaeth, Celfyddydau, Amgylcheddol, Iechyd, Addysg a Gwirfoddol/Elusennol, i adlewyrchu ystod y prosiectau y mae'r Loteri yn eu cefnogi.
Os dymunwch enwebu'ch hoff brosiect yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni, anfonwch neges drydar at @LottoGoodCauses gyda'ch awgrymiadau neu ffoniwch 0207 293 3599 i gael gwybod mwy a chymryd rhan. Rhaid derbyn ceisiadau cyn hanner nos ar 9 Mawrth 2016.