Mwy o Newyddion
Elin Jones - “Mae’r ffeithiau’n siarad drostynt eu hunain – mae cleifion yng Nghymru ar eu colled”
Mae Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones wedi rhybuddio’r Prif Weinidog na fydd rhethreg yn cuddio methiant ei lywodraeth Lafur i gynllunio’r gwasanaeth iechyd yn effeithiol.
Wrth i’r Prif Weinidog draddodi araith i amddiffyn record ei lywodraeth ar y GIG, dywedodd Elin Jones fod Llafur yn cuddio’u pennau yn y tywod ynghylch eu methiannau a bod angen gweithredu yn hytrach na rhethreg i wella’r gwasanaeth. Dywedodd fod y llywodraeth Lafur wedi methu dro ar ôl tro a chyflwyno ar y gwasanaeth iechyd, gan nodi’r canlynol:
· Mae Llafur yn gyson wedi methu â chyrraedd targedau allweddol megis amseroedd amser am driniaeth am ganser, amseroedd aros cyn cyfeirio at driniaeth, ac amseroedd aros am brofion diagnostig hanfodol, gyda pherfformiad yn dirywio mewn llawer maes dros y 5 mlynedd a aeth heibio
· Mae Llafur wedi methu â chyflwyno ar ymrwymiadau yn eu maniffesto, megis ymestyn oriau agor meddygon teulu ac wedi gweld argyfwng mewn recriwtio meddygon teulu a arweiniodd at gwymp mewn niferoedd meddygon teulu a meddygfeydd yn cau, gyda llai o feddygon teulu yn ôl pen y boblogaeth na rhannau eraill y DG
· Arweiniodd methiant Llafur i gynllunio’r gweithlu ar gyfer y gwasanaeth iechyd at symud gwasanaethau o ysbytai llai oherwydd diffyg meddygon
· Mae Llafur wedi llywyddu dros nifer o sgandalau yn ymwneud â thriniaeth wael a diffyg gofal megis ward Tawel Fan yng Nglan Clwyd, heintiad yn Betsi Cadwaladr a arweiniodd at ymddiswyddiad y rheolwyr, a wardiau ym Mhen-y-bont, fel yr amlygwyd gan adroddiad Andrews.
Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones: “Mae methiant y llywodraeth Lafur i gynllunio a rheoli ein gwasanaeth iechyd fod cleifion yng Nghymru yn aml yn aros lawer hwy na chleifion mewn mannau eraill yn y DG ar gyfer hyd yn oed brofion a thriniaethau sylfaenol. Does dim rhyfedd fod y Prif Weinidog yn teimlo dan bwysau, ond ni all amddiffyn yr hyn nad oes modd ei amddiffyn.
“Mae’r ffeithiau yn siarad drostynt eu hunain: methodd Llafur â chwrdd â’u targedau llai uchelgeisiol eu hunain, a methodd â rheoli a chynllunio’r gwasanaeth iechyd a’i gweithlu. Ac y mae methiannau Llafur yn rhoi staff y GIG dan straen enbyd bob dydd.
“Ond yn hytrach na chyflwyno’r arweiniad a’r gwelliannau y mae ar y gwasanaeth eu hangen, mae’r Prif Weinidog yn cuddio’i ben yn y tywod, gan geisio cuddio diffygion perfformiad ei lywodraeth gyda rhethreg wag a beio byrddau iechyd yn hytrach na’i bolisi ei hun. Bydd staff y GIG yn gweld trwy hyn, fel y bydd pobl Cymru.
“Yr hyn mae ar y GIG ei angen yw arweiniad gan lywodraeth gyda gweledigaeth ac uchelgais. Mae Plaid Cymru eisoes wedi gosod allan ein cynlluniau i adeiladu capasiti yn y gwasanaeth iechyd trwy hyfforddi a recriwtio mil yn ychwanegol o feddygon, a lleihau amseroedd aros trwy sefydlu tair canolfan ddiagnostig unswydd ar hyd a lled Cymru, ac integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cyflwyno gwasanaeth modern a llyfn addas i wasanaethu pobl Cymru.”