Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Chwefror 2016

Diwrnod tyngedfennol i addysg Gymraeg yng Nghasnewydd

Mae RhAG wedi galw ar Bwyllgor Cynllunio Cyngor Dinas Casnewydd i roi eu cefnogaeth ar gyfer adeiladu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd ar safle Ysgol Uwchradd Dyffryn, i agor ym Medi 2017.

Heddiw, bydd y pwyllgor yn ystyried y cais cynllunio a gyflwynwyd, fodd bynnag, mae swyddog cynllunio yr ALl wedi argymell y dylid gwrthod y cais ar sail safbwyntiau a gyflwynwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru sy'n cyfeirio at ganllawiau a nodir yn y Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN 15), sy'n datgan na all risg a chanlyniadau llifogydd gael eu rheoli ar y safle.

Mewn llythyr at aelodau’r Pwyllgor Cynllunio dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG: "Mae'r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd arfaethedig yn cynrychioli ateb sy'n gwbl hanfodol, nid yn unig o ran dyletswyddau a chyfrifoldebau statudol yr Awdurdod Lleol, ond hefyd o ran ymrwymiad, gobeithion a disgwyliadau disgyblion, rhieni a theuluoedd Casnewydd a De Sir Fynwy.

"Roedd y penderfyniad a gymerwyd gan y Cabinet nôl yng Ngorffennaf 2015, yn dynodi diwrnod hanesyddol yn natblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd.

"Yn wir, mae'r ysgol newydd yn bwysig nid yn unig o ran ei effaith ar ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn yr awdurdod, ond hefyd yr effaith gadarnhaol a gaiff ar fywiogrwydd yr iaith Gymraeg yn yr ardal gyfagos, y rhanbarth ehangach ac yn wir yn Ne Ddwyrain Cymru.

"Mae twf addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd wedi bod yn llwyddiant aruthrol; mae’r datblygiad hwn yn cynrychioli’r bennod nesaf a bydd yn sicrhau’r dilyniant di-dor sydd ei angen i gynnig cydraddoldeb o ran cyfle i bob disgybl yng Nghasnewydd, i gael addysg lleol o'r safon uchaf.

"Byddai unrhyw benderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r ysgol Gymraeg newydd ar safle Dyffryn yn arwain at ganlyniadau difrifol dros ben.

"Heb yr ysgol newydd hon, bydd Ysgol Gyfun Gwynllyw dan ei sang yn 2016 a byddai oedi pellach i agor yr ysgol yn tanseilio ymrwymiad yr awdurdodau lleol a’u cyfrifoldeb statudol i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn lleol.

"Mae nifer cynyddol o ddisgyblion yn gorfod teithio allan o'r sir i gael mynediad at addysg uwchradd Gymraeg, ac mae hyn ar gost sylweddol i'r awdurdod.

"Hefyd byddai effaith andwyol ar Ysgol Uwchradd Dyffryn, a fyddai’n colli allan ar fuddsoddiad sylweddol fel rhan o'r cynllun ehangach.

"Mae rhieni plant yng Nghasnewydd a De Sir Fynwy eisoes wedi dioddef ansicrwydd sylweddol ynghylch darpariaeth cyfrwng Cymraeg i'w plant a fydd yn dechrau yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi 2016.

"Mae'r cyhoeddiad am yr ysgol newydd, ethol corff llywodraethu a phenodi pennaeth wedi lleddfu’r ofnau hyn - er gwaethaf y cynnig i leoli'r ysgol mewn llety dros dro am flwyddyn.

"Mae’r 80 o blant sydd wedi gwneud cais i ddechrau yn yr ysgol newydd ym Medi 2016 yn haeddu safle parhaol a diogel ar gyfer eu hysgol.

"Rydym yn annog yr awdurdod lleol i ganiatáu'r cais hwn, yn amodol ar weithio gyda'r asiantaethau perthnasol i sicrhau bod mesurau addasu yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw risg, a bod cynllun rheoli llifogydd cadarn a gwacáu yn ei le fel mater o frys; er budd cymunedau ysgol yn Ysgol Uwchradd Dyffryn, yr ysgol Gymraeg newydd a'r gymuned leol yn ehangach.

"Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn torri tir newydd wrth agor yr ysgol newydd hon, mae’n gyfle gwerthfawr na ellir ei golli."

Rhannu |