Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Chwefror 2016

Dim digon o sylw i'r Gymraeg yn etholiadau'r Cynulliad: Lansiad Bws

'Mae angen mwy o ffocws ar y Gymraeg yn etholiadau'r Cynulliad', dyna fydd neges Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith wrth lansio taith bws tu allan i'r Senedd heddiw (12:30pm, Dydd Mercher, 3ydd Chwefror). 

Mewn ymdrech i hoelio sylw ar y Gymraeg wrth i Lywodraeth nesaf Cymru gael ei ffurfio dros y misoedd nesaf, mae'r mudiad iaith yn teithio ledled y wlad mewn bws er mwyn hyrwyddo eu gweledigaeth hir dymor i'r iaith. 

Y llynedd, cyhoeddodd y mudiad argymhellion manwl i'r pleidiau yn eu dogfen polisi "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth o 2016 Ymlaen", gan gynnwys cynigion i symud at addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob un person ifanc.

Mae'r ddogfen yn cynnwys degau o syniadau sy'n anelu at gyrraedd tri nod cyfartal - creu miliwn o siaradwyr, atal yr allfudiad a defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd. 

Yn ôl y mudiad, dyw'r Gymraeg ddim wedi derbyn digon o sylw yn ystod etholiadau blaenorol y Cynulliad.

Meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Dyw'r Gymraeg ddim wedi cael digon o sylw yn etholiadau'r Cynulliad o'r blaen.

"Pa bynnag blaid, neu bleidiau, sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru, bydd angen cynllun manwl hir dymor ar gyfer yr iaith gyda sicrwydd o fwy o adnoddau tu ôl iddo.

"Rydyn ni eisiau i'r holl bleidiau gyhoeddi cynlluniau mwy manwl nag erioed o'r blaen.

"Dyna sydd ei angen fel bod modd i bobl trin a thrafod y ffordd gorau ymlaen.

"Gobeithio bydd ein bws ar ei daith yn fodd o godi ymwybyddiaeth o'n syniadau a'n hymgyrchoedd a hoelio sylw ar y Gymraeg, a hynny yn ystod y cyfnod o bwys hanesyddol i’r Gymraeg a chymunedau Cymru’n gyffredinol." 

"Cyhoeddon ni ein hargymhellion ar gyfer rhaglen Llywodraeth nesaf Cymru'r llynedd, ac rydyn ni wedi cwrdd â'r holl bleidiau yn y Cynulliad i'w trafod.

"Mae’r cynigion yn becyn o bolisïau sydd wedi eu seilio ar drafodaethau manwl o fewn y Gymdeithas, yn ogystal â chydag arbenigwyr ym maes polisi iaith.

"Wrth reswm, dydyn ni ddim yn honni bod gennym ni fonopoli ar yr holl bolisïau sy’n mynd i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu dros y blynyddoedd i ddod.

"Ond, rydyn ni'n gobeithio'n fawr bod bodolaeth y ddogfen a’r cynigion yn dangos pwysigrwydd etholiad 2016. 

"Mae'r etholiad nesaf yn un tyngedfennol i'r iaith.

"Mae angen uchelgais arnon ni fel cenedl er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg dros y degawdau i ddod.

"Mae angen i ni fel pobl - a'n gwleidyddion - codi ein gorwelion.

"Nid oes amheuaeth bod canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn amlygu’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg.

"Ond does dim angen, na diben, anobeithio; yn hytrach, mae angen gweithredu'n fwriadus ar bolisïau a chynlluniau clir.

"Os yw ein gwleidyddion o ddifrif am gyrraedd amcanion uchelgeisiol, mae angen penderfyniadau dewr ar ddeddfwriaeth, adnoddau, defnyddio cefnogaeth y cyhoedd a chynllunio'r ffordd ymlaen." 

Bydd y bws yng Nghaerdydd ar gyfer rali "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg" y grŵp pwyso ar ddydd Sadwrn 13eg  Chwefror.     

Rhannu |