Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Chwefror 2016

Electoral Reform Society Cymru yn rhybuddio yn erbyn pleidlais Refferendwm ar Ewrop yn mis Mehefin

Mae Electoral Reform Society (ERS) Cymru wedi rhybuddio heddiw yn erbyn cynnal y refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin gan y byddai'n beryg o danseilio etholiadau sydd i ddod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gymdeithas yn credu y gall bleidlais yn Mehefin - rhywbeth sy'n cael ei grybwyll heddiw - daflu cysgod dros yr etholiadau Cymreig ym mis Mai, a’r ymgyrch sydd ohoni.

Dywedodd Stephen Brooks, Cyfarwyddwr ERS Cymru: "Mae pleidlais refferendwm UE mor fuan ar ôl etholiadau'r Cynulliad yn beryg o danseilio yr etholiadau eu hunain – gan wyro y ddadl oddi ar ei gwrs ac i ffwrdd o faterion sydd wedi'u datganoli.

"Bydd Ebrill a Mai yn gweld y ddadl am Ewrop yn cyrraedd ei anterth pe byddai'r bleidlais i'w gynnal ym mis Mehefin - o bosibl yn rhoi’r broses hanfodol o bleidleiswyr Cymru yn dewis eu llywodraeth nesaf yn y cysgod.

"Byddai pleidlais Ewrop yn Mehefin hefyd yn ychwanegu mwy o ddryswch i ddiwrnod eisoes yn brysur gyda etholiadau, gyda Heddlu a Chomisiynwyr Troseddau hefyd yn cael eu codi - er gwaethaf materion cyfiawnder a phlismona nad yw'n faterion sydd wedi eu datganoli.

"Mae etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael llawer rhy ychydig o sylw ar draws y DU fel ag y mae.

"Mae etholiadau Cynulliad Cymru a refferendwm Ewrop angen cyfle clir i gael eu lle ar wahan: gadewch i ni gael trafodaethau â ffocws gwirioneddol am y ddau penderfyniadau pwysig drwy gynnal yr ymgyrchoedd ar adegau gwahanol."

Rhannu |