Mwy o Newyddion
Cwlwm Celtaidd 2016 - Cyhoeddi bandiau o bedwar ban y byd Celtaidd
Mae'r ŵyl flynyddol Ryng-Geltaidd wedi cyhoeddi'r bandiau fydd yn perfformio ym Mhorthcawl fis Mawrth. Yn eu plith mae RURA o'r Alban, Jamie Smith’s Mabon, Linda Griffiths a Sorela o Gymru a’r dawnswyr Perree Bane o Ynys Manaw.
Dros benwythnos yr ŵyl rhwng Mawrth 4-6, 2016 bydd Porthcawl yn croesawu cerddorion a dawnswyr o’r Alban, Iwerddon, Llydaw ac Ynys Manaw i berfformio ym Mhafiliwn y Grand.
Yn ŵyl deuluol llawn cerddoriaeth, dawns a chân mae gan Cwlwm Celtaidd raglen lawn o gyngherddau, dawns, gweithdai, dawns stryd ac ar y traeth yn ogystal â sesiynau hwyliog wrth y bar.
Un o brif fandiau’r ŵyl eleni yw’r pumawd o’r Alban RURA sy’n dod a cherddoriaeth draddodiadol Albanaidd i’r bywyd amgen.
Mae’r band Celtaidd Jamie Smith Mabon wedi perfformio yn Cwlwm Celtaidd sawl gwaith.
Dywed arweinydd y band, Jamie Smith: “Mae hi bob tro’n bleser dychwelyd i Borthcawl ar gyfer Cwlwm Celtaidd.
"Braf iawn yw cael perfformio ochr yn ochr gyda llu o artistiaid a dawnswyr o wledydd gwahanol, rydw i’n clywed rhyw alaw newydd yn flynyddol.”
Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan bwyllgor gwirfoddol o’r ardal.
Dywed Mel Evans, cyfarwyddwr Cwlwm Celtaidd: “Braint yw trefnu Cwlwm Celtaidd pob blwyddyn.
"Er ei fod yn waith caled, mae pob tro’n hyfryd gallu croesawu gymaint o bobl o wledydd Celtaidd eraill a gallu arddangos eu diwylliant trwy gerddoriaeth a dawns i bobl Cymru. Felly dewch yn llu!”
Mae tocynnau ar gael o wefan Pafiliwn y Grand.
Llun: Jamie Smith