Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Chwefror 2016

Rhaid i Gymru gael 'cerdyn coch' ar Brexit medd ASE Plaid Cymru

Ar ddatblygiadau heddiw ar yr ail-drafod am berthynas y Deyrnas Gyfunol â'r Undeb Ewropeaidd, dywedodd ASE Plaid Cymru Jill Evans: "Mae gan bobl Cymru yr hawl i ddewis eu dyfodol eu hunain.

"Golyga hynny os yw Cymru yn pleidleisio i aros yn yr UE, ni ddylem gael ein llusgo allan yn groes i'n hewyllys petai rhannau eraill o'r DG yn pleidleisio i adael. Dylai'r DG gael mandad i adael yr UE dim ond os yw pob rhan yn pleidleisio dros hynny.

"Ddylai fod gan Lywodraeth Cymru 'gerdyn coch' ar Brexit.

"Byddai'n gwbl annerbyniol i Brydain adael yr UE heb gytundeb Cymru."

Ychwanegodd Jill Evans ASE: "Mae Cymru wedi elwa'n aruthrol o fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'r UE wedi elwa'n sylweddol o gael Cymru fel aelod.

"Hoffem weld diwygiadau sy'n gwneud yr UE yn fwy agored, atebol ac effeithiol, ond sydd hefyd yn rhoi llais uniongyrchol cryfach i Gymru ym Mrwsel.

"Mae'n llawer gwell i ni ddadlau dros newid go iawn o'r tu fewn na checru o'r ochrau. Mae Cymru angen llywodraeth Plaid Cymru er mwyn gwneud hynny."

Rhannu |