Mwy o Newyddion
Y goeden a oroesodd yn chwifio’r faner dros Gymru mewn cystadleuaeth Ewropeaidd. A wnewch chi ddangos eich cefnogaeth?
Yn yr hydref y llynedd, fe gurodd derwen sydd bellach yn sefyll yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yr holl gystadleuwyr eraill i ennill Cystadleuaeth Coeden Gymreig y Flwyddyn.
Yn dwyn yr enw “Y dderwen a oroesodd wrth yr ymyl torri”, fe dderbyniodd y goeden 28% o'r pleidleisiau mewn cystadleuaeth agos, a drefnwyd gan Coed Cadw (Woodland Trust) ac a gefnogir gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.
Yn awr, fe fydd yn chwifio’r faner dros Gymru yng Nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn, a drefnir gan y Gymdeithas Partneriaeth Amgylcheddol.
Enwebwyd y goeden ar gyfer y gystadleuaeth gan ddyn lleol, Terry Treharne, sy'n egluro ei hanes arbennig iawn o oroesi er gwaethaf pawb a phopeth: "Pan gefais fy ngeni roedd y tir sydd bellach yn Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ei rannu’n saith fferm gychwynnol.
"Er mwyn ennill arian poced yn 14 oed, fe gefais y gwaith o glirio padog oedd wedi gordyfu.
"Gan ddefnyddio pladur, fe gliriais ddarnau helaeth ohono, hyd nes i boen arteithiol ddatblygu yn fy mhenelin, a bu'n rhaid rhoi'r gorau i’r gwaith.
"Ar ôl dychwelyd ddeuddydd yn ddiweddarach, fe wnaeth y ffermwr fy atgoffa (er nad oedd wedi dweud wrthyf o'r blaen) i beidio â thorri’r dderwen yn y padog.
"Felly, oni bai am fy mhenelin, fe fyddwn i wedi dinistrio’r goeden hardd hon."
Amcan Cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn yw tynnu sylw at arwyddocâd hen goed ar draws Ewrop sy'n haeddu cael eu gwarchod yn iawn.
Yn wahanol i gystadlaethau eraill, nid yw Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn yn canolbwyntio ar brydferthwch, maint neu oedran ond yn hytrach ar stori’r goeden a'i gysylltiad â phobl. Mae'n edrych am goed sydd wedi dod yn rhan o'r gymuned ehangach.
Mae gwarchod coed hynafol ac etifeddiaeth yn dipyn o bwnc llosg yng Nghymru ar hyn o bryd, gan fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor i edrych ar y pwnc ond, does dim argymhellion wedi cael eu cytuno eto.
Dywed Jerry Langford, Cyfarwyddwr Cymru o Coed Cadw: "Fe fyddem wrth ein bodd petai’n coeden ni’n ennill ac mae angen i chi bleidleisio rhwng y 1 a 29 Chwefror 2016.
"Fe fyddwch yn gallu gweld faint o bleidleisiau mae pob coeden wedi eu derbyn arlein tan fis Chwefror 23 pan gân nhw eu cuddio o'r golwg.
"Yna fe gaiff y canlyniadau terfynol eu cyhoeddi ar 7 Mawrth. Wedyn fe gaiff y wobr ei chyflwyno mewn seremoni ar 20 Ebrill ym Mrwsel."
Dywed David Hardy o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: "Rwy'n falch iawn fod y goeden ryfeddol hon yn awr yn cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn ac rwy'n annog pawb i fynd at www.treeoftheyear.org i bleidleisio drosti hi.
"Yn amlwg, mae rhywbeth yn y stori hon am ei goroesiad flynyddoedd yn ôl sy'n taro tant gyda’r cyhoedd.
"Y newyddion da yw bod y goeden yn dal yma ac yn gallu cymryd ei lle ymhlith 8,000 o rywogaethau o blanhigion gwahanol ar draws 560 erw o gefn gwlad prydferth sy'n ffurfio Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru."
Mae pleidleisio yng Nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn yn rhad ac am ddim ac yn digwydd trwy gydol mis Chwefror 2016 yn www.treeoftheyear.org Fe fydd y Goeden a oroesodd wrth yr ymyl torri yn cystadlu yn erbyn coed o 14 o wledydd eraill, gan gynnwys Gellygwydden Cubbington o Swydd Warwick , sy'n cael ei fygwth gan Reilffordd HS2 newydd, Derwen y Swffragetiaid yn Glasgow yn yr Alban, a gafodd ei phlannu i ddathlu rhoi’r bleidlais i ferched a Choeden Heddwch o Belfast yng Ngogledd Iwerddon, coeden goffa a heddwch a blannwyd er anrhydedd y rhai na ddychwelodd o'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar y wefan hon, gallwch ddarllen am bob un o’r 15 coeden a enwebwyd ym mhob un o ieithoedd cenedlaethol y gwledydd ', gan gynnwys y Gymraeg.