Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mai 2011

Dadorchuddio plac Islwyn Ffowc Ellis

DADORCHUDDIWYD plac arbennig i goffáu man geni’r nofelydd Islwyn Ffowc Elis yn rhif 12, Y Ffawydd, Wrecsam.

Er mai gyda Glyn Ceiriog y mae’n cael ei gysylltu’n bennaf yn y tŷ hwn yn nhref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni y cafodd ei eni.

Ei gyfnither Mrs Rhiannon Grey-Davies oedd â’r gwaith o ddadorchuddio’r plac.

Yn gyn Uwch-Feistres Ysgol Morgan Llwyd roedd yn hael ei chanmoliaeth o’i chefnder.

Arweiniwyd y cyfarfod gan Alun Emmanuel, cadeirydd Cymdeithas Owain Cyfeiliog, y gymdeithas lenyddol leol.

Teulu ifanc sy’n byw yn y tŷ ar hyn o bryd.

Y llynedd rhoddwyd plac ar gartref yr awdur yn Pengwern, Ffordd Glynhebog, Llanbedr Pont Steffan.

Bu’n byw yno rhwng 1975 a 2004 ar ôl cyfnodau mewn rhannau eraill o Gymru.

Mae rhagor am blaciau awduron Cymru i’w weld ar y we: www.placiauawduron.org

Rhannu |