Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn galw am weithredu i achub ein dur
Mae AC Plaid Cymru Bethan Jenkins wedi gosod allan y camau y dymuna Plaid Cymru weld yn cael eu cymryd yn eu brwydr i achub y diwydiant dur yng Nghymru.
Dywedodd Bethan Jenkins fod cymunedau yn ei rhanbarth dan bwysau enbyd oherwydd yr ansicrwydd a achoswyd gan yr argyfwng yn y diwydiant dur, a galwodd ar lywodraeth ar bob lefel i edrych i weld beth ellid ei wneud i gefnogi’r diwydiant dur.
Dywedodd Bethan Jenkins: “Mae Plaid Cymru yn bryderus iawn ynghylch cyflwr diwydiant dur Cymru, ac yr wyf eisiau i lywodraeth ar bob lefel ymchwilio i weld beth mae modd ei wneud i’w gefnogi.
"Rwyf wedi cymryd y cyfle dros yr wythnosau diwethaf i siarad â llawer o’r sawl sydd wedi dioddef effaith cyhoeddiad diweddar Tata.
"Maent mewn sefyllfa enbyd ac eisiau gwybod beth wnaiff gwleidyddion ym mhob sefydliad i’w cefnogi.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mesurau sydd yn eu barn hwy yn ddigon i amddiffyn dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, ond mae’n amlwg i mi y bydd angen gwneud llawer mwy.
"Mae Plaid Cymru wedi gosod allan y camau yr ydym am i’r llywodraeth eu cymryd i gefnogi’r diwydiant.
"Rydym eisiau i Lywodraeth Cymru edrych ar bosibiliadau dod yn rhan o bartneriaeth gyhoeddus-preifat, a chreu cynllun dros dro i roi rhyddhad o ardrethi busnes er mwyn helpu’r gwaith trwy’r cyfnod mwyaf anodd.
“Mae Plaid Cymru hefyd eisiau ymchwilio i ddewisiadau ynghylch gwrthweithio’r dylanwad gaiff dur Tsineaidd ar y farchnad, ac i ystyried sut y gallwn gryfhau’r farchnad i ddur Cymru.
“Mae diwydiant dur Cymru dan fygythiad difrifol, a rhaid i ni weithredu rhag blaen os ydym am gefnogi’r diwydiant trwy’r amseroedd hynod anodd hyn.
"Mae dyfodol disglair yn bosib i’r diwydiant dur yng Nghymru, ond dim ond Plaid Cymru sydd wedi datgan sut y galwn gyrraedd hyn.”