Mwy o Newyddion
Dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd
Bydd adroddiad sy'n amlygu'r diffygion yn y trefniadau teithio ar gyfer gemau Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghaerdydd yn cael ei drafod gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru dydd Mercher, 3 Chwefror.
Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes, yn dweud bod angen gwella Gorsaf Caerdydd Canolog, a hynny ar frys.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod pobl wedi bod yn ciwio am hyd at bedair awr i ddal trenau ar ôl y gêm gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm, er bod yr amser hwn wedi gostwng dros gyfnod y twrnamaint, gyda phobl yn aros am ddwyawr neu lai ar gyfer y pum gêm olaf o’r wyth gêm a gynhaliwyd yn y ddinas.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys naw argymhelliad, gan gynnwys:
- Dylid ymgymryd â gwaith gwella capasiti yng Ngorsaf Caerdydd Canolog fel mater o frys;
- Dylai'r holl randdeiliaid fynd ati ar fyrder i adolygu’r cynlluniau teithio ar gyfer digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd. Dylai hyn gynnwys camau i sicrhau bod un strwythur rheoli integredig ar waith;
- Mae cyfathrebu’n allweddol - rhaid i drefnwyr digwyddiadau a chwmnïau trafnidiaeth wneud mwy o ymdrech i sicrhau y caiff cefnogwyr wybodaeth well am yr opsiynau sydd ar gael iddynt a’u disgwyliadau ynglŷn â chiwio; a,
- Dylid rhoi lle mwy blaenllaw i fysiau mewn cynlluniau teithio, yn enwedig tra bydd cyfyngiadau yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. Dylai hyn gynnwys defnyddio bysiau fel y prif ddull o deithio a hefyd fel cynllun wrth gefn i leihau’r pwysau yn yr orsaf.
"Mae’r digwyddiadau mawr – fel Cwpan Rygbi'r Byd a gemau'r Chwe Gwlad – yn gyfle i Gymru werthu ei hun i'r byd fel gwlad sy’n croesawu ymwelwyr a phobl fusnes. Gemau fel y rhain yw ein ffenest siop ni," meddai William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes.
"Yn ystod ein hymchwiliad, yr oedd yn amlwg i ni mai’r broblem, yn y bôn, yw seilwaith Gorsaf Caerdydd Canolog, sy’n heneiddio.
"Mae angen buddsoddi’n sylweddol yn yr orsaf i greu gorsaf sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a disgwyliadau teithwyr.
"Ond mae stori galonogol i'w hadrodd hefyd. Yn dilyn anawsterau difrifol yn ystod y tair gêm gyntaf, roedd y pum gêm derfynol a gynhaliwyd yn y stadiwm yn dangos ei bod yn bosibl trefnu i gefnogwyr adael yn gyflym heb orfod aros yn rhy hir am drafnidiaeth gyhoeddus.
"Mae'r safon wedi codi ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, ac rydym yn annog pawb i barhau i weithio gyda'i gilydd i gynnal y safon honno."
Yn ei ymateb, derbyniodd Llywodraeth Cymru'r argymhellion i gyd, gydag un ohonynt mewn egwyddor.
Cynhelir y ddadl yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd am 13.30 ddydd Mercher 3 Chwefror. Gellir gwylio'r trafodion naill ai o'r oriel gyhoeddus yn y Senedd neu'n fyw ar-lein ar www.senedd.tv.
Dylai unrhyw un sydd am wylio'r Cyfarfod Llawn o'r oriel gyhoeddus gysylltu â llinell archebu'r Cynulliad ar 0300 200 6565.