Mwy o Newyddion
Cydweithio i gyflwyno gwell gwasanaeth bws i weithwyr Antur Waunfawr
Yn dilyn trafodaethau gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ac Antur Waunfawr, mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno gwelliannau i drywydd gwasanaeth bws rhif 88 o Lanberis i Gaernarfon sy’n golygu fod y bws bellach yn teithio i mewn i stad ddiwydiannol Cibyn.
Ar gais gan Wasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, bu trafodaethau rhwng Antur Waunfawr ac Uned Cludiant Integredig Cyngor Gwynedd er mwyn edrych ar y posibilrwydd o redeg gwasanaeth bws i mewn i stad diwydiannol Cibyn ar gyfer gweithwyr Antur Waunfawr yn y Warws Werdd a Chaergylchu yng Nghibyn. Yn y gorffennol, roedd y bws yn rhedeg heibio stad Cibyn, ond nid oedd yn teithio i mewn i’r stad ei hun.
Yn dilyn cyflwyno proses dendro ar gyfer gwyro’r gwasanaeth i mewn i stad Cibyn, dyfarnwyd y gwasanaeth i gwmni Express Motors.
Dywedodd Y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Trafnidiaeth: “Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu cynnig gwell gwasanaeth i ddefnyddwyr Gwasanaeth bws rhif 88.
"Pan ddaeth y cais ymlaen y byddai newid trywydd y bws yn ei gwneud hi’n gymaint haws i weithwyr Antur Waunfawr yng Nghibyn, fe aeth staff Uned Cludiant (Integredig) y Cyngor ati yn syth i ystyried os oedd modd cyflwyno’r newid.
“Diolch iddynt am eu gwaith caled i sicrhau fod hyn yn bosib, ynghyd ag Antur Waunfawr a fu’n cefnogi llawer ar y cynllun.
"Mae ychwanegu un man stopio ychwanegol i siwrnai bws rhif 88 wedi hwyluso llawer ar ddiwrnod gweithwyr Warws Werdd a Chaergylchu ac rwy’n falch ein bod wedi gallu cydweithio i gyflwyno gwell gwasanaeth.”
Ychwanegodd Beth Nicol, Swyddog Marchnata Antur Waunfawr: “Rwy’n hynod o falch fod y cynllun hwn wedi ei wireddu.
"Mae wedi gwneud teithio i ac o’r gwaith i weithwyr y Warws Werdd a Chaergylchu yng Nghibyn llawer fwy cyfleus, heb amharu yn ormodol ar daith wreiddiol gwasanaeth bws rhif 88. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Cyngor am gynnig gwasanaeth fel hyn.”
LLUN: Y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet ar gyfer Trafnidiaeth, (ch-dd cefn) – Robat, Michael, Iwan, (ch-dd blaen) Ifor, Gareth a Llinos Roberts, Swyddog Cludiant Cyhoeddus a Cymunedol Dros Dro Cyngor Gwynedd