Mwy o Newyddion
Toriadau andwyol tu hwnt i Brifysgol Bangor
Fe allai’r toriadau sydd ar y gweill gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd gael effaith hynod andwyol ar Brifysgol Bangor – un o’r cyflogwyr mwyaf yn lleol gyda llawer o fusnesau yn ddibynnol ar y sefydliad.
Dyma rybudd clir mewn datganiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan Cyng Sian Gwenllian, ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad ar fai 5ed.
Meddai: "“Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn bwriadu torri £41M oddi ar gyllideb y Cyngor Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru.
"Byddai gwneud hynny yn golygu toriad anferth o 32% neu fwy.
"Byddai gan hyn oblygiadau pell-gyrrhaeddol, andwyol iawn i Brifysgol Bangor, sefydliad sy’n ffynnu ar hyn o bryd ac yn meddu statws byd-eang.
“Mae tua 2,400 o bobl yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac mae’n holl-bwysig i ffyniant lawer o fusnesau lleol.
"Mae’r 10,000 o fyfyrwyr sy’n byw ym Mangor yn bwysig i economi’r ddinas a’r ardal o gwmpas.
“Gwyddom fod y Brifysgol yn chwarae rhan allweddol yn ein economi leol o ran swyddi yn unig – gan gymharu gyda chwmni mawr o ran maint.
"Gallai’r toriadau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd arwain at golli llawer o swyddi ond dydy Llafur ddim wedi cynnal unrhyw asesiad i weld effaith y toriad ar swyddi.
“Ond mae mwy na swyddi dan fygythiad.
"Gallai’r toriad danseilio’r Coleg Cymraeg, y Parc Gwyddoniaeth ac ymchwil hanfodol mewn arloesi, gofal iechyd a’r amgylchedd.
"Mae’r ymchwil sy’n digwydd ym Mangor o safon uchel ac mae’n effeithio ar fywydau pobol y Gogledd ac ar draws y byd.
“Mae Plaid Cymru yn ymwybodol o werth ein prifysgolion ac fe fydd ein maniffesto ar gyfer Etholiad y Cynulliad yn cynnwys polisi fydd yn ein galluogi i fuddsoddi mwy nid llai yn ein prifysgolion.
“Yn y cyfamser, rydym yn annog yr Aelodau Cynulliad Llafur presennol i feddwl eto am y toriad £41M ac i ystyried yn ofalus beth fyddai canlyniadau y cam gwag yma ar ddyfodol Cymru.”