Mwy o Newyddion
Cam pwysig ymlaen ar gyfer Ysgol Glancegin newydd ym Maesgeirchen, Bangor
Mae prosiect gwerth £5.1 miliwn i adeiladu cartref newydd ar gyfer Ysgol Glancegin ym Mangor wedi cymryd cam allweddol ymlaen, gyda chadarnhad fod cwmni adeiladu Wynnes o ogledd Cymru, wedi ennill y prif gytundeb i adeiladu’r ysgol newydd.
Bydd y datblygiad, sydd wedi ei gyllido ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif, yn golygu adeiladu ysgol newydd yn ardal Maesgeirchen y ddinas i gymryd lle’r Ysgol Glancegin presennol.
Bydd y cynllun cyffrous yma yn sicrhau yr amgylchedd ddysgu orau y tu mewn i’r ysgol, a bydd y datblygiad hefyd yn cynnig gofod dysgu allanol, gan ddarparu ardaloedd chwarae newydd fydd yn cefnogi’r plant i ddatblygu ar draws pob rhan o’r cwricwlwm. Bydd gwaith dylunio manwl, gan gynnwys cyflwyno cais cynllunio yn cael ei gynnal dros y misoedd nesaf.
Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: "Fel Cyngor, rydan ni yn awyddus i wneud yn siwr fod plant mewn cymunedau ar draws y sir, lle bynnag maen nhw’n byw, yn gallu cael mynediad at yr adnoddau addysgol gorau posib.
“Mae’n newyddion gwych fod y prosiect i adeiladu’r Ysgol Glancegin newydd yn bwrw ymlaen.
"Gyda buddsoddiad o dros £5 miliwn, pan fydd yr ysgol yn agor ei drysau yn 2017, bydd plant yr ardal yma o Fangor yn elwa ar yr awyrgylch dysgu mwyaf modern.
"Braf hefyd gwybod y bydd yr adeilad yn cynnig gofod penodol i gefnogi ymyrraeth arbenigol, ynghyd a chyfrannu at godi lefel cyrhaeddiant y plant.”
Cwmni Wynne Construction o ogledd Cymru sydd wedi eu dewis i wneud y gwaith adeiladu ar ôl ennill tendr ffurfiol. Fel rhan o’u tendr, mae’r cwmni, ynghyd â phenseiri’r prosiect, Lovelocl Mitchell Associates, wedi paratoi fideo sy’n rhoi amlinelliad o sut y bydd yr Ysgol Glancegin, gwerth £5.1 miliwn yn edrych pan fydd yn agor i ddisgyblion ym mis Medi 2017.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar faterion eiddo: “Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth gyda chwmni adeiladu Wynne Construction i gwblhau nifer o brosiectau ysgolion ac maent ar hyn o bryd yn arwain ar brosiect i adeiladu’r Ysgol Hafod Lon newydd ym Mhenrhyndeudraeth.
“Gwyddom o brofiad fod y cwmni yn rhannu ein hymrwymiad i gadw cymaint â bo modd o fudd prosiectau o’r fath yn yr economi leol trwy gyflogi cymaint o gontractwyr a staff lleol ar eu prosiectau â bo modd a chefnogi busnesau lleol yn eu cadwyni cyflenwi.
“Mae’r cynlluniau cychwynnol yn rhai cyffrous iawn a braf ydi gallu gweld fideo amlinellol sy’n rhoi argraff artist o sut y gallai’r Ysgol Glancegin newydd edrych. Bydd rhagor o waith manwl yn digwydd rwan i gwblhau’r cynlluniau yn derfynol, gyda disgwyl i waith adeiladu gychwyn ar y safle yn ystod yr haf.”
Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwyr Wynne Construction, Chris Wynne: “Fel contractwr cyfrifol yng ngogledd Cymru ac un o brif ddarparwyr adeiladau addysgol yn yr ardal, rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau’r cytundeb yma gan Gyngor Gwynedd.
"Mae ein profiad helaeth yn y maes yn golygu ein bod yn gallu cyflwyno cynllun o safon uchel ac yn ystod y broses adeiladu i gryfhau ein cadwyn cyflenwi lleol a chefnogi economi gogledd Cymru.
"Byddwn hefyd yn cynnwys y gymuned a rhan-ddeiliad allweddol er mwyn sicrhau amrediad o fuddiannau cymunedol i gefnogi’r buddsoddiad yn y prosiect.”
Nododd y Cynghorydd Nigel Pickavance sy’n cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd: "Dyma gam arall cadarnhaol yn y gwaith o sefydlu’r Ysgol Glancegin newydd. Mae’r ffaith fod y prif gontractwr wedi ei apwyntio yn golygu y bydd cynlluniau manwl ar gyfer yr ysgol newydd yn symud ymlaen ac rydw i’n edrych ymlaen i weld sut yn union y bydd yr ysgol newydd yn edrych.”
Mae disgwyl y bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn haf 2016, gydag adeilad newydd Ysgol Glancegin yn barod ar gyfer Medi 2017.
Mae prosiect yr Ysgol Glancegin newydd wedi ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru trwy eu Rhaglen Ysgolion 21ain ac mae’n rhan o Fframwaith Contractwyr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru sydd werth £200 miliwn.
Amlinelliad o sut y bydd yr Ysgol Glancegin newydd yn edrych (Fideo wedi ei ddarparu gan Lovelock Mitchell Associates): https://www.youtube.com/watch?v=N9_kalS7Isk
LLUNIAU: Amlinelliad o sut y bydd yr Ysgol Glancegin newydd yn edrych