Mwy o Newyddion
Beirniadu TTIP am fod 'gan fusnesau mawr, i fusnesau mawr'
MAE ymgeisyddion Plaid Cymru ledled y wlad wedi cymryd rhan mewn Diwrnod Gweithredu yn erbyn bargen TTIP (Transatlantic Trade and Investment Partnership) sy'n bygwth preifateiddio gwasanaethau cyhoeddus, ac sy'n debygol o adael busnesau bach dan anfantais sylweddol.
Mae ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd yn awgrymu y gall TTIP arwain at golli tua 680,000 o swyddi ledled yr Undeb Ewropeaidd, gan orfodi busnesau bach i gystadlu gyda chorfforaethau mawr.
Dywedodd ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Aberconwy, Trystan Lewis, y dylai Llywodraeth y DU roi'r gorau i gefnogi'r cytundeb masnach y mae Plaid Cymru wedi ei wrthwynebu erstalwm.
Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Lafur Cymru hefyd gefnogi galwad Plaid Cymru am i Gymru gael veto ar TTIP er mwyn amddiffyn busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymreig.
Dywedodd Trystan Lewis ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Aberconwy a pherchennog busnes ei hun: "Mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu TTIP ers talwm - cytundeb amheus sydd wedi cael ei drafod yn bennaf y tu ol i ddrysau caeedig.
"Mae TTIP nid yn unig yn bygwth preifateiddio ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, gall hefyd brofi'n drychinebus i'n busnesau bach.
"Mae nifer yn cydnabod bellach fod y fargen fasnach hon yn un sydd wedi ei dylunio gan fusnesau mawr, er diben busnesau mawr. Bydd unrhyw elw yn mynd i gorfforaethau mwyaf yr UE ac UDA, gan adael busnesau bach a chanolig dan anfantais.
"Gall hyn brofi'n drychinebus i ni yng Nghymru ble mae 99% o'r sector fusnes yn Fentrau Bach a Chanolig.
"Mae ffigyrau'r Comisiwn Ewropeaidd yn amcangyfrif y gall TTIP arwain at golli 680,000 o swyddi ledled yr Undeb Ewropeaidd.
"Mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Tufts hefyd yn rhybuddio fod posibilrwydd o gwymp sylweddol mewn masnach rhwng gwledydd yr UE o ganlyniad i wyriad masnach i'r Unol Daleithiau. Mae posib y bydd allforion y DU i wledydd eraill Ewropeaidd hefyd yn cael ei effeithio'n ddifrifol gan TTIP, gyda chwymp o dros 40% yng ngwerth allforion y DU i'r Almaen, yr Eidal ac Iwerddon.
"Mae Plaid Cymru yn cydnabod gwerth ein sector fusnes. Nid ydym yn barod i adael i Lywodraeth y DU daro bargen fydd yn eu heffeithio'n ddrwg heb herio hyn.
"Dyna pam ein bod yn cymryd rhan yn y Diwrnod Gweithredu heddiw (Dydd Sadwrn) i godi ymwybyddiaeth o fygythiadau TTIP ac i annog Llywodraeth y DG i roi'r gorau i'w gefnogi.
"Dylai Llywodraeth Lafur Cymru hefyd gefnogi galwad Plaid Cymru am i Gymru gael veto ar TTIP, fel y gallwn warchod ein gwasanaethau cyhoeddus a'n busnesau rhag y fargen niweidiol hon."