Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Chwefror 2016

74% o bobl Cymru yn gwybod am y system newydd ar gyfer rhoi organau

Mae ffigurau newydd a gafodd eu cyhoeddi heddiw (Dydd Llun 1 Chwefror) yn dangos bod 74% o bobl eisoes yn gwybod am y newidiadau i'r system rhoi organau yng Nghymru.

Mae hyn yn cymharu â 69% o bobl pan gafodd y set ddiwethaf o ffigurau ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Mae nifer y bobl a oedd wedi trafod eu penderfyniadau am roi organau â'u teulu hefyd wedi codi ychydig i 47%.

Mae'r ffigurau newydd hefyd yn dangos lefel uchel o ddealltwriaeth am y system optio allan yng Nghymru.  Mae wyth o bob deg o bobl sy'n gwybod am y system newydd yn gallu disgrifio'r newidiadau. 

Mae'r data'n cael eu cyhoeddi i gyd-fynd â lansio cam nesaf yr ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus, "Nawr yw'r Amser i Siarad".  Nod yr ymgyrch yw annog pobl i neilltuo'r amser i siarad am eu penderfyniadau am roi organau gan fod Cymru wedi cyflwyno system feddal o optio allan.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i newid y system rhoi organau drwy gyflwyno system feddal o optio allan ym mis Rhagfyr. Caiff pobl 18 oed neu hŷn sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na deuddeng mis ac sy'n marw yng Nghymru eu hystyried bellach fel pe baent wedi rhoi cydsyniad i roi organau, oni bai eu bod wedi optio allan. Mae hyn yn cael ei alw'n gydsyniad tybiedig.

Gall pobl sy'n dymuno bod yn rhoddwr organau gofrestru penderfyniad i optio i mewn, neu wneud dim, a fydd yn golygu nad oes ganddynt wrthwynebiad i fod yn rhoddwr organ. Gall y bobl hynny nad ydynt yn dymuno bod yn rhoddwr organau optio allan unrhyw bryd.

Gallai'r newid i'r system rhoi organau, a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2015, arwain at gynnydd o 25% yn nifer y rhoddwr organau.

Mae’r hysbysebion a fydd yn cael eu darlledu ar orsafoedd teledu a radio yn annog pobl i siarad â'u hanwyliaid am eu penderfyniad am roi organau er mwyn iddynt ddeall eu dymuniad yn glir.

Yn y gorffennol mae llawer o deuluoedd wedi gwrthod rhoi cydsyniad i roi organau am nad oeddent yn gwybod beth oedd dymuniad eu hanwyliaid.

Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:  "Llynedd, bu farw 14 o bobl tra roedden nhw'n aros am organ. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y newid i'r system rhoi organau yng Nghymru yn cynyddu cyfraddau rhoi organau.

"Fodd bynnag, mae'n bwysig i bobl siarad â'u teuluoedd a'u hanwyliaid am eu penderfyniad am roi organau. Yn anaml iawn rydyn ni'n ffeindio ein hunain mewn sefyllfa i fod yn rhoddwr organau.  Ond mae teuluoedd yn fwy tebygol o fod o blaid rhoi organ os ydyn nhw'n gwybod beth oedd penderfyniad eu hanwylyd am roi organau.

"Os nad ydych chi wedi penderfynu eto, dyw hi ddim yn rhy hwyr. Rydych chi'n gallu cofrestru'ch penderfyniad unrhyw bryd ar gofrestr Rhoi Organau'r GIG, a chofiwch ddweud wrth eich teulu am eich penderfyniad."

 

Rhannu |